|
Mae'n hawdd cael enw pau!
Enw pau yw'r darn sy'n mynd ar ôl y www mewn cyfeiriad gwefan a'r darn sy'n mynd ar ôl yr @ mewn cyfeiriad e-bost. Er enghraifft, enw pau Cymru 1 Cyfyngedig yw cymru1.net.
Gall unrhyw un gofrestru fwy neu lai unrhyw enw pau os nad oes rhywun arall wedi ei gofrestru eisoes. Fodd bynnag, dylech osgoi defnyddio enw pau sy'n nod masnachu os nad ydych yn berchen y nod masnachu eich hun.
Yn ogystal â .net, gallwch ddewis enw pau sy'n gorffen gyda .com, .org, .info a llawer o rai eraill hefyd.
Mae cofrestru enw pau yn golygu talu ffi am yr hawl i ddefnyddio'r enw pau am gyfnod arbennig. Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, rhaid i chi dalu eto i ymestyn eich hawl i ddefnyddio’r bau. Yn gyffredinol mae hyn yn golygu talu rhywfaint o tua £8:50 y flwyddyn i dros £30 y flwyddyn gan ddibynnu ar y bau y byddwch am ei chofrestru.
I gofrestru enw pau ar unwaith gyda Cymru 1 cliciwch yma!
|