Hafan  Amdanom Ni  Cynhyrchion  Ychwanegol  Statws  Cymorth
   Hafan > Cynhyrchion > Cymru 1 Aur > Ffurfweddu eich Pau   
       
Cynhyrchion
Cyflwyniad
Cymru 1 Cyswllt
Cymru 1 Arian
Cymru 1 Aur
Cofrestru Pau
Dylunio gwefannau
Telerau ac Amodau
Ffurfweddu eich pau i weithio gyda Cymru 1

Er mwyn defnyddio eich pau gyda chyfrif Aur Cymru 1, mae angen i chi ei ffurfweddu i ddefnyddio gweinyddion DNS Cymru 1 (ns1.cymru1.org a ns2.cymru1.org).

Mae hyn yn cael ei wneud yn awtomatig os wneuch chi gofrestru y pau trwy Cymru 1, felly ni fydd ddim mwy i chi ei wneud: Cliciwch Nesaf >> ar waelod y dudalen i barhau'r broses cofnodi.

Os ydych wedi cefrestru y pau trwy gwmni arall (ac yn siwr o fod wedi talu gormod), os gwelwch yn dda, darllenwch ymlaen.

Mae gweinydd DNS, weithiau'n cael yr enw nameserver, rywbeth yn debyg i Ymholiadau Rhifau Ffôn neu Dudalennau Melyn ar y Rhyngrwyd.

Y cyfan ydi o yw system ar gyfer cyfieithu'r math o gyfeiriadau Rhyngrwyd y bydd pobl yn hoff o'u defnyddio (e.e. www.cymru1.net neu dafydd@fymhau.com) i'r math o gyfeiriadau y bydd cyfrifiaduron ar y Rhyngrwyd yn eu defnyddio mewn gwirionedd (cyfeiriadau IP, fel 217.158.42.21).

I gadw pethau o fewn rheswm, yn hytrach na chanolfan "ymholiadau rhifau ffôn" Rhyngrwyd enfawr, mae'r gyfundrefn wedi ei rhannu yn ddarnau bach - meddyliwch amdanynt fel llyfrau ffôn unigol.

Er mwyn cael eich pau i weithio'n iawn gyda gwasanaeth Arian Cymru 1, y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw ei ffurfweddu fel ei bod yn cael ei rhestru yn llyfr ffôn Cymru 1 ac nid un pawb arall.

Yn dechnegol, mae hyn yn golygu ffurfweddu’r bau i ddefnyddio:

ns1.cymru1.org (cyfeiriad IP 217.158.42.21) ar gyfer ei brif (primary) DNS neu nameserver.

ac

ns2.cymru1.org (cyfeiriad IP 213.239.42.216) ar gyfer ei DNS neu nameserver eilradd (secondary).

Mae'r union ffordd o wneud hyn yn amrywio o un cwmni cofrestru enwau pau i un arall.

Fel arfer, mae hyn yn hawdd iawn i'w wneud. Edrychwch am opsiwn sydd yn debyg i "modify/choose DNS servers" neu "modify/choose nameservers" a wedyn cofrestru'r wybodaeth uchod. Os oes drafferth, cyffwrddwch gyda'r adran cefnogaeth technegol yn y cwmni a ddefnyddiwch I gofrestru eich pau.

Cliciwch ar Nesaf >> unwaith y byddwch wedi ffurfweddu eich pau i ddechrau’r broses ymuno â chyfrif Aur.



Y wefan hon (c) 2001 Cymru 1 Cyfyngedig. Cliciwch yma am wybodaeth hawlfraint, ymwrthodiad, a termau defnyddio safle We.