Hafan  Amdanom Ni  Cynhyrchion  Ychwanegol  Statws  Cymorth
   Hafan > Cymorth > Cymru 1 Arian > E-bost   
       
Arian
Cyflwyniad
Problemau Cysylltu
Problemau E-bost
Problemau wefan
Problemau Panel Rheoli
Gosodiadau cyffredinol

Er mwyn i gleient e-bost (fel Outlook neu Outlook Express) anfon a derbyn e-bost yn llwyddiannus, bydd y rhaglen angen gwybod pum peth allweddol:



Enw'r Cyfrif e-bost sydd i anfon neu dderbyn e-bost


Y cyfrinair ar gyfer y cyfrif e-bost hwn


Cyfeiriad e-bost y cyfrif hwn.


Y gweinydd POP3 (derbyn) e-bost i'w ddefnyddio


Y gweinydd SMTP (anfon) e-bost i'w ddefnyddio



Mae gan gwsmeriaid Arian reolaeth lawn dros eu peuoedd, gan gynnwys sefydlu cyfrifon e-bost. Mae hyn yn golygu na allwn ni roi manylion penodol i chi o beth allai eich enwau cyfrif e-bost fod.

Fel enghraifft, fodd bynnag, os mai enw eich pau yw fymhau.com, a'ch bod wedi sefydlu cyfrif e-bost o'r enw fyenw, gyda chyfrinair o fynghyfrinair


Enw eich cyfrif e-bost fyddai fyenw

Eich cyfeiriad e-bost fyddai fyenw@fymhau.com

Eich cyfrinair fyddai fynghyfrinair

Eich gweinydd POP3 (derbyn) e-bost fyddai fymhau.com


Ond beth am y gweinydd SMTP (anfon) e-bost? Mae hwn yn un anodd, gan fod gennych amryw ddewisiadau.

O dan amgylchiadau arferol, dylech ddefnyddio'r gweinydd SMTP sy'n cael ei ddarparu gan eich ISP. Os ydych yn defnyddio gwasanaeth DI-DÂL Cymru 1 Cyswllt, er enghraifft, byddai yn smtp.cymru1.net. Os byddwch yn defnyddio BT Openworld, byddai yn smtp.btopenworld.com.



Mae gennych hefyd y dewis o ddefnyddio'r gweinydd e-bost SMTP sy'n dod fel rhan o'ch cyfrif Arian. Yn yr achos hwn fe fyddech yn defnyddio smtp.fymhau.com ar gyfer y bau yn yr enghraifft flaenorol. Fodd bynnag, er diogelwch, cyn y gallwch anfon e-bost gan ddefnyddio y gweinydd SMTP hwn, rhaid i chi ddilysu eich hun gydag ef gyntaf. Enw'r drefn hon yw “POP before Relay”, ac mae'n helpu i atal sbam (e-bost dieisiau).

Mae'n hawdd iawn dilysu eich hun gyda'r gweinydd: Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw “derbyn” e-bost. Nid yw'n bwysig os nad oes e-bost i'w dderbyn, dim ond eich bod yn ceisio gwneud hynny. Y rheswm am hyn yw pan fyddwch yn derbyn e-bost, bydd eich cleient e-bost yn defnyddio eich enw defnyddiwr a chyfrinair i ddilysu eich hawl i dderbyn yr e-bost. Bydd y gweinydd SMTP yna yn gwybod ei bod yn ddiogel i dderbyn e-bost oddi wrthych a bydd yn caniatáu i chi ddefnyddio'r gwasanaethau SMTP at anfon e-bost. Mae eich dilysu yn para am gyfnod o 20 munud ar ôl hyn (oni bai eich bod yn datgysylltu o'r Rhyngrwyd yn y cyfamser).

Yn anffodus, pan gliciwch yr y botwm “Send/Receive” ar y rhan fwyaf o gleientiaid e-bost, maent yn ceisio anfon e-bost cyn ei dderbyn, a chewch wall anfon os oedd gennych unrhyw e-bost i'w anfon. Bydd clicio ar “Send/Receive” am yr ail dro yn achosi anfon yr e-bost heb wall, gan y byddwch wedi cael eich dilysu nawr.

Efallai eich bod yn credu fod hyn yn hirwyntog a diangen. Yn bendant mae'n hirwyntog, ond ymhell o fod yn ddiangen. Byddai modd i ni beidio defnyddio'r dilysu yma ond, byddai gwneud hynny yn gadael gweinydd SMTP eich pau yn agored i gael ei gamddefnyddio gan “sbamwyr”, sy'n beth drwg iawn.



Defnyddio Outlook neu Outlook Express gyda'ch cyfrif Arian.

Yn yr adran hon rydym yn dweud wrthych yn union sut i ffurfweddu Outlook neu Outlook Express er mwyn caniatáu i chi anfon a derbyn e-bost yn llwyddiannus trwy ddefnyddio eich cyfrif Arian.



Yn yr enghreifftiau sy'n dilyn, byddwn yn cymryd yn ganiataol eich bod wedi sefydlu cyfrif e-bost trwy eich panel rheoli fel a ganlyn:

Enw'r Cyfrif e-bost yw fyenw


Y cyfrinair e-bost yw fynghyfrinair



Byddwn hefyd yn cymryd yn ganiataol mai

Yr enw pau rydych yn ei ddefnyddio gyda'ch cyfrif Arian yw fymhau.com


Y byddwch yn defnyddio'r gwasanaeth Cymru 1 Cyswllt i gael mynediad i'r Rhyngrwyd, felly eich gweinydd SMTP fydd smtp.cymru1.net



Mae sut y byddwch yn teipio'r manylion angenrheidiol i'r rhaglen yn dibynnu ar y fersiwn o Outlook neu Outlook Express sydd gennych.

Outlook Express (5.x neu 6.x)

Outlook (yn Office 2000 a chynharach)

Outlook (yn Office XP)



Outlook Express 5 neu 6

Lansiwch Outlook. Cliciwch ar y ddewislen gwympo “Tools”, a dewis “Accounts” o'r rhestr hon.



Bydd ffenestr newydd o'r enw “Internet Accounts” yn ymddangos, gydag thabiau ar draws y top (“All”, “Mail” ac ati). Cliciwch ar y tab “Mail”.



I greu cyfrif newydd, gwnewch y canlynol:


1) Cliciwch ar y botwm “Add” a dewis “Mail” o'r rhestr o eitemau sy'n ymddangos.



2) Bydd hyn yn lansio “Wizard” fydd yn gofyn rhai cwestiynau ac yn sefydlu eich system e-bost yn awtomatig.



3) Cwestiwn cyntaf y “Wizard” fydd eich enw. Rhowch eich enw, fel y byddwch am iddo ymddangos yn eich e-bost.





4) Cliciwch ar y botwm “Next”



5) Yn y sgrîn nesaf, gwnewch yn siŵr fod “I already have an e-mail address that I'd like to use” wedi ei ddewis. Yn y llinell “Email address”, teipiwch eich cyfeiriad e-bost (e.e. fyenw@fymhau.com)



6) Cliciwch ar y botwm “Next”



7) Yn y sgrîn nesaf, gwnewch yn siŵr fod “POP3” wedi ei ddewis yn y llinell “My Incoming mail server is”. Os nad yw, newidiwch o.



8) Yn y llinell “Incoming mail (POP3, IMAP or HTTP) server”, teipiwch eich enw pau (e.e. fymhau.com)



9) Yn y llinell “Outgoing mail (SMTP) server”, teipiwch enw gweinydd SMTP Cymru 1, sef smtp.cymru1.net (Heblaw eich bod yn defnyddio ISP arall i gysylltu â'r Rhyngrwyd ac nid Cymru 1. Os ydych, dylech deipio enw gweinydd SMTP yr ISP ac nid gweinydd SMTP Cymru 1)



10) Cliciwch ar y botwm “Next”



11) Yn y sgrîn nesaf, teipiwch enw eich cyfrif e-bost yn y llinell “Account name” (e.e. fyenw)



12) Yn y llinell “Password”, teipiwch eich cyfrinair ebost (e.e. fynghyfrinair). Cliciwch ar “Remember Password” os ydych eisiau i Outlook gofio eich cyfrinair o hyn ymlaen. Mae hyn yn syniad da oni bai fod pobl eraill yn defnyddio eich cyfrifiadur ac nad ydych eisiau iddynt ddarllen eich e-bost.



13) Gwnewch yn siŵr fod “Log on using Secure Password Authentication” heb ei dicio.



14) Cliciwch ar y botwm “Next”




15) Rydych bron â gorffen. Bydd y sgrîn nesaf yn dweud wrthych eich bod wedi gorffen sefydlu eich cyfrif. Nawr cliciwch ar y botwm “Finish”. Bydd cyfrif newydd wedi cael ei greu ar eich cyfer o'r enw pop3.cymru1.net. Byddwch yn ei weld yn cael ei restru'n y tab “Mail” yn ffenestr “Internet Accounts”.



16) I gau'r ffenestr hon, cliciwch ar y botwm “Close”.



17) Cliciwch ar y botwm mawr “Send/Recv” yn rhes botymau Outlook Express ar dop y sgrîn i anfon a derbyn eich e-bost. Mae mwy o help ar ddefnyddio Outlook Express i'w weld trwy ddefnyddio dewislen Help Outlook Express, yn union i'r dde o'r ddewislen “Messages” ar dop prif ffenestr Outlook Express.








Microsoft Outlook (yn Office 2000 a chynharach)

Lansiwch Outlook. Cliciwch ar y ddewislen gwympo “Tools”, a dewis “Accounts” o'r rhestr hon.



Bydd ffenestr newydd o'r enw “Internet Accounts” yn ymddangos, gydag thabiau ar draws y top (“All”, “Mail” ac ati). Cliciwch ar y tab “Mail”.


I greu cyfrif newydd, gwnewch y canlynol:


1) Cliciwch ar y botwm “Add” a dewis “Mail” o'r rhestr o eitemau sy'n ymddangos.



2) Bydd hyn yn lansio “Wizard” fydd yn gofyn rhai cwestiynau ac yn sefydlu eich system e-bost yn awtomatig.



3) Cwestiwn cyntaf y “Wizard” fydd am eich enw “Display”. Dim ond dweud eich enw wrtho sydd raid, fel yr ydych am iddo ymddangos yn eich e-bost.





4) Cliciwch ar y botwm “Next”



5) Yn y sgrîn nesaf mae angen i chi ddweud eich cyfeiriad e-bost wrth Outlook. Felly yn y llinell “Email address” teipiwch eich cyfeiriad e-bost (e.e. fyenw@fymhau.com)



6) Cliciwch ar y botwm “Next”



7) Yn y sgrîn nesaf, gwnewch yn siŵr fod POP3 wedi ei ddewis yn y llinell “My Incoming mail server is”. Os nad yw, newidiwch o.



8) Yn y llinell “Incoming mail (POP3, IMAP or HTTP) server”, teipiwch eich enw pau (e.e. fymhau.com)


9) Yn y llinell “Outgoing mail (SMTP) server”, teipiwch enw gweinydd SMTP Cymru 1, sef smtp.cymru1.net (Heblaw eich bod yn defnyddio ISP arall i gysylltu â'r Rhyngrwyd ac nid Cymru 1. Os ydych, dylech deipio enw gweinydd SMTP yr ISP ac nid gweinydd SMTP Cymru 1)



10) Cliciwch ar y botwm “Next”



11) Yn y sgrîn nesaf, teipiwch eich enw cyfrif e-bost yn y llinell “Account name” (e.e. fyenw)



12) Yn y llinell “Password”, teipiwch eich cyfrinair e-bost. Cliciwch ar “Remember Password” os ydych eisiau i Outlook gofio eich cyfrinair o hyn ymlaen. Mae hyn yn syniad da oni bai fod pobl eraill yn defnyddio eich cyfrifiadur ac nad ydych eisiau iddynt ddarllen eich e-bost.



13) Gwnewch yn siŵr fod “Log on using Secure Password Authentication” heb ei dicio.



14) Cliciwch ar y botwm “Next”




15) Rydych bron â gorffen. Os bydd y “Wizard” nawr eisiau gwybod sut fyddwch yn cysylltu â'r Rhyngrwyd, dywedwch wrtho eich bod eisiau sefydlu cysylltiad eich hun (y dewis olaf).

16) Cliciwch ar y botwm “Next”

17) Bydd Outlook yn dweud wrthych eich bod wedi rhoi'r holl fanylion yn llwyddiannus a'ch bod yn barod i fynd.

18) Cliciwch ar y botwm “Finish”.



19) Cliciwch ar y botwm “Close” i gau'r ffenestr cyfrifon e-bost.

20) Cliciwch ar y botwm mawr “Send/Recv” yn y bar botymau Outlook tua thop y sgrîn i anfon a derbyn eich e-bost. Mae mwy o help ar ddefnyddio Outlook i'w weld trwy ddefnyddio dewislen “Help” Outlook, yn union i'r dde o ddewislen “Messages” ar ben prif ffenestr Outlook Express.





Microsoft Outlook XP (yn Office XP [2002])

Mae gan y fersiwn o Outlook yn Microsoft Office XP ryngwyneb defnyddiwr ychydig yn wahanol i'r fersiwn yn Office 2000 a chynharach.



I ddarganfod os yw'r ffurfweddu yn gywir, rhedwch Outlook, cliciwch ar ddewislen “Tools”, a dewiswch “E-Mail accounts” o'r rhestr.



Y cam cyntaf yw gweld os oes sôn am eich E-bost Cymru 1 presennol. I wneud hyn, dewiswch “View or Change existing Email accounts”, a chliciwch ar “Next”.



1) Cliciwch ar y botwm “Add” o'r ffenestr restru “E-mail Accounts” (neu dewiswch “Add a new e-mail account” o'r ffenestr “E-mail Accounts” gyntaf un).



2) O'r ffenestr restru “Server Type”, dewiswch “POP3” a chliciwch ar y botwm “Next”.



3) O dan y pennawd “User Information”, teipiwch eich enw neu sefydliad yn y llinell “Your Name”. Dyma'r union wybodaeth fydd yn cael ei anfon gyda'ch e-bost - nid yw'n bwysig beth yw cyn belled â'ch bod yn hapus i bobl eraill ei weld ar ben eich holl e-bost.



4) Yn y llinell “E-mail Address”, teipiwch eich cyfeiriad e-bost (e.e. fyenw@fymhau.com).



5) Yn y llinell “User Name”, teipiwch eich enw cyfrif e-bost eto (e.e. fyenw).



6) Yn y llinell “Password”, teipiwch eich cyfrinair. Pan deipiwch eich cyfrinair yn y llinell hon, byddwch yn gweld “*” yn ymddangos yn lle pob llythyren yn eich cyfrinair - mae hyn er diogelwch.



7) Gwnewch yn siŵr fod tic yn y blwch “Remember password” yn lle gorfod teipio eich cyfrinair bob tro y byddwch yn casglu eich e-bost. Fodd bynnag, os bydd pobl eraill yn defnyddio eich cyfrifiadur ac na fyddwch eisiau iddynt gasglu eich e bost, peidiwch â rhoi tic yma.



8) Gwnewch yn siŵr nad oes tic yn y blwch “Log on using Secure Password Authentication”.



9) Yn y llinell “Incoming mail server (POP3)”, teipiwch eich enw pau (e.e. fymhau.com)


10) Yn y llinell “Outgoing mail server (SMTP)”, teipiwch “smtp.cymru1.net” (heb y dyfyniadau). Fodd bynnag, os ydych yn defnyddio ISP arall ac nid Cymru 1 i gysylltu â'r Rhyngrwyd, rhowch enw gweinydd SMTP yr ISP arall yma yn ei le.



11) Ar hyn o bryd dylai popeth fod yn gweithio'n iawn. Os cliciwch ar y botwm “Test Account Settings”, bydd Outlook XP yn sicrhau fod popeth yn gweithio'n iawn, a bydd yn dweud wrthych beth sydd heb fod yn gweithio - gall hyn eich helpu i ddatrys problemau ychwanegol.

Y wefan hon (c) 2001 Cymru 1 Cyfyngedig. Cliciwch yma am wybodaeth hawlfraint, ymwrthodiad, a termau defnyddio safle We.