Ystyr FTP yw File Transfer Protocol, sef y protocol y bydd pob gwefan yn ei ddefnyddio i ganiatáu i gwsmeriaid lwytho eu ffeiliau i fyny (anfon) i'w lle ar y We. Rhaglen yw cleient FTP sy'n deall y protocol hwn ac mae wedi ei dylunio'n benodol at lwytho i fyny (anfon) a hefyd at lwytho i lawr (derbyn) ffeiliau o Wefannau.
Rhai enghreifftiau o gleientiaid FTP yw CuteFTP, WS-FTP a FTP Voyager. . Cliciwch ar enw'r rhaglen i fynd i Wefan cyhoeddwr y rhaglen. Gallwch hefyd weld mwy o raglenni FTP trwy ymweld â www.download.com a chwilio am FTP. SYLWCH: Mae gan rai golygyddion HTML gyfleusterau FTP eu hunain. Os felly y mae gyda'ch golygydd HTML, ni fydd angen i chi lwytho cleient FTP i lawr ar wahân.
Dechrau arni
Er mwyn cysylltu â'ch gwefan, bydd angen i chi ddweud y tri pheth canlynol wrth raglen eich cleient FTP:
1) Enw / cyfeiriad y gweinydd FTP
2) Eich enw defnyddiwr / enw cyfrif FTP
3) Eich cyfrinair FTP
Mae enw / cyfeiriad y gweinydd FTP y dylech ddefnyddio yn dibynnu ar enw pau eich cyfrif Arian. Os mai enw eich pau yw fymhau.com, yna enw / cyfeiriad y gweinydd FTP fyddai fymhau.com
Eich enw defnyddiwr FTP yw'r enw Gweinyddwr Gwefan neu gyfrif defnyddiwr arferol (mewn geiriau eraill yr un enw cyfrif a defnyddiwch yn eich cleient e-bost (heb yr @eichpau.com). Er enghraifft, os mai enw eich cyfrif yw dafydd, a'ch cyfeiriad e-bost yw dafydd@eichpau.com, teipiwch dafydd fel y enw defnyddiwr FTP yn eich cleient FTP.
Eich cyfrinair FTP yw cyfrinair y cyfrif defnyddiwr a grybwyllwyd uchod. Felly os oes gan ddefnyddiwr dafydd gyfrinair fynghyfrinair, byddai ef yn teipio fynghyfrinair fel y cyfrinair FTP
Defnyddio eich cleient FTP i gysylltu â'ch Gwefan
Wedi rhoi'r wybodaeth gywir yn eich cleient FTP, gofynnwch iddo eich cysylltu â'ch Gwefan. Mae cleientiaid FTP yn gwahaniaethu o raglen i raglen ond, fel arfer, mae hyn yn digwydd trwy glicio ar y botwm “Connect” neu ddewis “Connect” o ddewislen.
Defnyddwyr Arferol
Pan fydd y cleient FTP yn cysylltu â pau y cyfrif Arian, yn ddiofyn mae'n eich rhoi yn eich cyfeiriadur storio personol. Dim ond chi (a Gweinyddwyr Safle) all weld y lle hwn. Nid yw'n rhan o unrhyw Wefan.
Yn y storfa bersonol hon, byddwch yn gweld cyfeiriadur o'r enw “Web”. Mae unrhyw ffeiliau neu dudalennau HTML sydd yn y cyfeiriadur Gwe yn weledol i bawb gyda phorwr sy'n ymweld â www.eichpau.com/~enwdefnyddiwr (neu www.eichpau.com/user/enwdefnyddiwr, lle bo enw defnyddiwr yn enw defnyddiwr eich cyfrif defnyddiwr arferol (e.e. dafydd). Dyma eich lle personol ar y We. Mae ffeil o'r enw index.html eisoes yn eich cyfeiriadur Gwe - gallwch ddileu hon yn ddiogel os ydych eisiau, neu ei defnyddio fel sail i'ch eich index.html eich hun ar gyfer eich gwefan.
Gweinyddwyr Gwefan
Pan fydd y cleient FTP yn cysylltu â'ch pau, yn ddiofyn mae'n eich rhoi yn eich cyfeiriadur storio personol (sydd yn /users/eichenwchyfrif). Dim ond chi (a Gweinyddwyr Safle eraill) all weld y lle hwn. Nid yw'n rhan o unrhyw Wefan.
Yn y storfa bersonol hon, byddwch yn gweld is gyfeiriadur o'r enw Web. Bydd unrhyw ffeiliau o dudalennau HTML gaiff eu rhoi yn y cyfeiriadur Gwe yn weledol i bawb gyda phorwr sy'n ymweld â www.eichpau.com/~enwdefnyddiwr (neu www.eichpau.com/users/enwdefnyddiwr lle bo enw defnyddiwr yn enw defnyddiwr eich cyfrif defnyddiwr arferol Gweinyddwr Gwefan. Eich lle personol chi ar y We yw hwn ac nid lle'r brif bau ar y We. Mae ffeil o'r enw index.html eisoes yn eich cyfeiriadur Gwe - gallwch ddileu hon yn ddiogel os ydych eisiau, neu defnyddiwch hi fel sail eich index.html eich hun ar gyfer eich gwefan bersonol.
Er mwyn gosod ffeiliau yn y prif le ar y we (mewn geiriau eraill yn www.eichpau.com yn hytrach nag yn www.eichpau.com/~enwdefnyddiwr), mae angen i chi ofyn i'ch cleient FTP newid cyfeiriaduron o /defnyddwyr/eichenwchyfrif i /gwe --gwelwch isod.
Sylwch:
Y cyfeiriadur /users yw'r man lle gwelwch is gyfeiriadur ar gyfer pob defnyddiwr ar eich gwefan, pob un yn cynnwys is gyfeiriadur gwe i ddarparu lle personol ar y We yn ôl y disgrifiad uchod.
Y cyfeiriadur /users uchod yw'r cyfeiriadur gwraidd (/). Yma fe welwch is gyfeiriaduron o'r enw
/users (yr un a ddisgrifiwyd uchod)
/logs (lle caiff rhai logiau eu cadw - peidiwch â phoeni am y rhain)
/certs (lle caiff tystysgrifau safle eu cadw - peidiwch â phoeni am y rhain)
ac yn olaf
/web
Y cyfeiriadur /web HWN A DIM OND HWN yw'r lle bydd raid i chi roi eich holl ffeiliau HTML i bawb eu gweld pan yn ymweld â'ch safle yn www.eichpau.com. Yn union fel gyda phob cyfeiriadur /user/enwdefnyddiwr/web unigol, fe welwch ffeil o'r enw index.html yn y prif gyfeiriadur /web. Gallwch ddileu hon neu ei defnyddio fel sail eich tudalen index.html eich hun.
SYLWCH:
Mae'r union ffordd y byddwch yn newid neu'n symud drwy gyfeiriaduron ar y gweinydd yn dibynnu ar eich cleient FTP. Mae'r rhan fwyaf yn darparu rhyngwyneb defnyddiwr graffigol tebyg i un Windows, felly ni ddylai fod yn anodd i chi symud i fyny ac i lawr rhwng cyfeiriaduron.
|