Eisiau creu eich tudalennau Gwe eich hun gyda'ch lle ar y We Cymru 1? Edrychwch ar y rhain gyntaf....
Rhanwedd a rhadwedd
Golygydd HTML CoffeCup: Golygydd HTML rhagorol, llawn nodweddion hawdd eu defnyddio. Mae'n cynnwys cyfleustod FTP, cefnogaeth Fflach a llawer mwy. Tra chymeradwy. Rhanwedd yw'r rhaglen hon - mae rhai swyddogaethau yn gyfyngedig nes byddwch yn cofrestru (tua $49). Cliciwch yma
Cool Page: Mae'r golygydd HTML WYSIWYG (What You See Is What You Get - h.y. graffeg) yn ei gwneud yn hawdd i greu tudalennau Gwe sy'n edrych yn dda yn gyflym iawn wir. Daw gydag amrywiol ffeiliau a thempledi graffeg ac aml-gyfrwng i chi ddefnyddio yn eich prosiectau. Da i'r dechreuwyr. Rhadwedd yw'r rhaglen hon ond mae'n cynnwys sgriniau swnian ac un neu ddau o blâu eraill wedi eu llunio i'ch annog i brynu'r fersiwn llawn. Cliciwch yma
Actual Drawing: Ni allwn argymell digon ar y golygydd HTML WYSIWYG grymus aruthrol hwn. Os ydych eisiau rhaglen sy'n ei gwneud yn hawdd i greu gwefannau proffesiynol eu golwg heb golli gormod o bŵer a hyblygrwydd, dyma'r un i ddewis. Rhanwedd yw'r rhaglen hon. Cost cofrestru tua $59. Cliciwch yma
1st Page 2000: 1st Page 2000: Mae hwn yn olygydd o fath proffesiynol sy'n anelu at ddefnyddwyr datblygedig, heb nodweddion WYSIWYG. Mae'n gwneud iawn am hyn trwy ei gwneud yn hawdd i'w wneud â llaw, ac mae'n wirioneddol werth edrych arno unwaith y dechreuwch deimlo cyfyngiadau'r rhan fwyaf o olygyddion WYSIWYG. Rhadwedd yw'r rhaglen hon.Cliciwch yma
Masnachol
Adobe GoLive: Dyma'r cynnyrch y byddwn ni'n tueddu i'w ddefnyddio fwyaf pan yn dechrau'r broses o ddylunio ein gwefannau a rhai ein cwsmeriaid. Mae'n ymfalchïo mewn bron bob nodwedd o dan yr haul ac mae'n darparu golygu WYSIWYG a ffynhonnell uniongyrchol. Mae'n hawdd iawn ei ddefnyddio, ond mae'r llawlyfr sy'n dod gydag ef braidd yn siomedig, felly rydym yn argymell prynu un o'r lliaws llyfrau tiwtorial ar y farchnad sy'n mynd â chi, gam wrth gam, drwy'r broses o gyfarwyddo â'r rhaglen. Mae'r rhaglen hon yn costio tua £200 + TAW. Cydymaith delfrydol i GoLive yw Adobe Photoshop, dewis y bobl broffesiynol at olygu ffotograffau a dylunio graffeg Gwe (tua £400+ TAW).Cliciwch yma
Macromedia Dreamweaver: Y rhaglen hon yw prif gystadleuydd Adobe GoLive. Nid ydym wedi defnyddio'r rhaglen hon ein hunain, ond yr holl arwyddion yw ei bod o leiaf cystal â GoLive. Mae cyfres ddylunio graffeg Gwe Macromedia Fireworks yn dra chymeradwy hefyd. Cliciwch yma
Microsoft FrontPage: Os ydych yn ddechreuwr llwyr, neu'n rhywun proffesiynol sydd angen creu Gwefan dda ei golwg yn gyflym, mae'n anodd curo Microsoft FrontPage. Byddwch yn ymwybodol y gall weithiau greu cod ychydig yn anniben ac ansafonol, yn achlysurol, sy'n gallu peri problemau i borwyr heblaw Microsoft. Sylwch, i ryddhau grym llawn FrontPage, byddwch angen Gwefan FrontPage-alluog. Ar hyn o bryd dim ond cwsmeriaid Aur ac Arian all gael y nodwedd hon. Gall cwsmeriaid Cyswllt ddal i ddefnyddio llawer o'r nodweddion sy'n cael eu darparu gan y rhaglen hon, fodd bynnag.Cliciwch yma
Mwy o ddewisiadau
Dim ond detholiad bach o'r golygyddion HTML sydd ar gael yw'r rhaglenni a restrwyd gennym. Fe welwch gannoedd mwy, rhanwedd a rhadwedd yn bennaf, ond rhai masnachol hefyd, heb sôn am lawer o fathau eraill o gelfi llunio a rhaglennu Gwe yng ngwefan Download.com CNET. Cliciwch yma
|