Hafan  Amdanom Ni  Cynhyrchion  Ychwanegol  Statws  Cymorth
   Hafan > Cynhyrchion > Cyflwyniad   
       
Cynhyrchion
Cyflwyniad
Cymru 1 Cyswllt
Cymru 1 Arian
Cymru 1 Aur
Cofrestru Pau
Dylunio gwefannau
Telerau ac Amodau

Mae Cymru 1 yn cynnig nifer o wahanol gynhyrchion a gwasanaethau, o'n gwasanaeth Connect DI-DÂL i'n gwasanaeth proffesiynol lletya a dylunio o'r radd flaenaf. Caiff popeth ei grynhoi isod, ond mae rhagor o fanylion i'w cael am bob cynnyrch trwy glicio ar y dolenni ar y chwith.




Mae gwasanaeth Cymru 1 Cyswllt yn ddelfrydol i ddefnyddwyr cartref, gan roi i chi e-bost DI-DÂL (eichdewis@cymru1.net), mynediad DI-DÂL i'r Rhyngrwyd a lle personol DI-DÂL ar y We, heb danysgrifiad misol a dim lleiafswm contract. Fodd bynnag, byddwch yn talu pris galwad ffôn lleol pryd bynnag y byddwch ar-lein.



I ddefnyddwyr cartref sydd eisiau ychydig bach dros ben, neu i fusnesau bach gyda chyllidebau tynn iawn, ein gwasanaeth Arian yw'r ateb delfrydol. Mae'r gwasanaeth hwn yn costio £5 + TAW y mis ac mae'n rhoi lle datblygedig i chi ar y we yn cael ei letya ar weinydd Sun Cobalt Raq3, 5 cyfeiriad e-bost POP3, 35Mb o le ar y We gyda sgriptio Perl ac estyniadau FrontPage.



Wedi ei lunio'n benodol ar gyfer defnyddwyr cartref datblygedig a busnesau sydd eisiau harneisio grym llawn y We, mae ein gwasanaeth Aur yn gwithio hefo'ch enw pau eich hun a wedi ei letya ar weinyddion Dell PowerEdge 1550 tra grymus, 25 o flychau e-bost POP3, 50Mb o le ar y We o radd broffesiynol, sgriptio Perl, Estyniadau FrontPage, a'r gallu i ddewis cefnogaeth cronfa ddata PHP, ASP, a MySQL. Mae cost y gwasanaeth hwn yn dechrau ar ddim ond £10+TAW y mis, gyda lleiafswm cyfnod contract o un mis..



www.eichdewis.com/net/org... Mae cofrestru pau gyda Cymru 1 yn hawdd ac yn rhad!



Mae'n hawdd creu Gwefan. Gall pawb ei wneud. Ond mae gwahaniaeth mawr rhwng gwefan sy'n edrych fel pe bai wedi ei chreu mewn pum munud gan gyflwynydd Blue Peter ac un a luniwyd yn ofalus gan grefftwr proffesiynol. Yn rhyfeddol, gallwch fod ar waith gyda gwefan a luniwyd yn broffesiynol am cyn lleied â £100+TAW!!

Y wefan hon (c) 2001 Cymru 1 Cyfyngedig. Cliciwch yma am wybodaeth hawlfraint, ymwrthodiad, a termau defnyddio safle We.