Gollyngwch rym llawn y We o ddim ond £10+TAW y mis!
*rhaid i chi fod yn berchennog enw pau
Dim enw pau?Cofrestrwch un nawr!
Os ydych yn arbenigwr Rhyngrwyd, byddwch yn gweld ar unwaith fod ein gwasanaeth Aur yn arbennig iawn yn wir, ac yn ddelfrydol i fusnes neu ddefnyddwyr cartref sydd eisiau harneisio grym llawn y We. A gyda phrisiau'n dechrau ar ddim ond £10+TAW y mis gyda chyfnod contract lleiaf o ddim ond un mis, rydym yn meddwl ein bod yn cynnig hyblygrwydd a gwerth eithriadol am yr arian. Mae hefyd yn gwneud cydymaith cynnyrch rhagorol i'n gwasanaeth Cymru 1 Cyswllt - defnyddiwch eich cyfrif Connect di-dâl i gael mynediad i'r Rhyngrwyd, a'ch cyfrif Aur ar gyfer eich gofynion Gwefan ac e-bost datblygedig.
Ond os yw'r rhan fwyaf o'r nodweddion a restrwyd gennym uchod yn ddim mwy na chasgliad diystyr o iaith dechnegol, digon yw dweud felly bod cyfrif Cymru 1 Aur yn cynnig bron bob cyfleuster y gallech ofyn amdano mewn gwasanaeth lletya gwefannau. Yn arbennig, mae sgriptio ochr gweinydd (PHP a Perl yn arbennig), un ai eu hunain neu wedi eu cyfuno â chronfa ddata MySQL, yn gadael i chi greu gwefannau dynamig, cynnwys-gyfoethog, rhywbeth nad yw'n bosibl gyda'r lle personol ar y We ddaw gyda'n gwasanaeth Connect, ac yn llawer iawn mwy hyblyg a grymus na'r dewisiadau cyfyngedig sydd ar gael gyda'n gwasanaeth Arian. A thrwy gael cyfrifon e-bost POP3 lluosog, pob un gyda'i flwch post ei hun, gallwch wneud yn siŵr, er enghraifft, fod ymholiadau biliau yn mynd yn uniongyrchol i'ch adran filiau a negeseuon i Gyfarwyddwr y cwmni yn mynd yn uniongyrchol iddo ef neu hi, heb y posibilrwydd o aelod iau o'r staff allu eu darllen - oni bai eich bod eisiau hynny. Neu, os ydych yn ddefnyddiwr cartref yn hytrach na busnes, gallwch roi cyfeiriad e-bost preifat i bob aelod o'ch teulu.
Gall hyd yn oed clybiau a chymdeithasau ddefnyddio ein gwasanaeth Aur gydag un o'n dewisiadau VISP i greu cymuned ar-lein arbennig ar gyfer eu haelodau, gan roi cyfeiriad e-bost eu hunain i bob un ohonynt a hyd yn oed lle ar y we wedi ei gysylltu â'ch gwefan. Er enghraifft, os oes gennych enw pau o einclwb.com gyda gwefan o'r enw www.einclwb.com, gallai eich aelodau gael cyfeiriadau e-bost o enwaelod@einclwb.com. Gallech hefyd ddewis roi lle ar y we i bob un o'ch aelodau o fewn eich pau gyda chyfeiriadau gwefan fel www.einclwb.com/~enwaelod.
Grym sgriptio ochr y gweinydd
Mae technolegau sgriptio ochr y gweinydd fel PHP a Perl yn gelfi grymus iawn yn wir, ac maent ar gael fel dewisiadau gyda'n gwasanaeth Aur. Mae ein gwefan ein hunain, er enghraifft, yn gwneud defnydd helaeth o PHP, a dyma sut y gallwn gynnig y fath gyfleusterau addasu helaeth. Mae technoleg PHP hefyd yn cael ei defnyddio i ddangos y ddolen sydd wedi ei dewis ar hyn o bryd yn y bariau Dewis a phrif Ddewislen, a llawer mwy heblaw hynny. Cliciwch yma os byddwch eisiau dysgu mwy am y dechnoleg tu ôl i'n gwefan. Neu cliciwch yma am gyflwyniad annibynnol i PHP.
Tâl Sefydlu Cyfrif: £10 + TAW
Tâl misol: £11 + TAW
Sgriptio PHP: £4+TAW y mis
Sgriptio ASP: £4 + TAW y mis (SYLWCH: Mae ein cyfleusterau ASP yn gyfyngedig i Apache::ASP - sgriptiau Perl mewn-llinell yn unig.)
Cronfeydd data MySQL: £4+ TAW y mis am bob cronfa ddata
Cyfeiriadau E-bost ychwanegol: £1+TAW y mis am bob cyfeiriad
Lle ychwanegol ar y We: £1+TAW y mis am bob 1Mb ychwanegol
Ystod data ychwanegol: £12+TAW y mis am bob Gigabit (1 Gigabit y mis yn gynwysedig fel safon, sydd yn fwy na digon i bawb ond y gwefannau prysuraf)
Pecyn VISP100: £20+TAW y mis, gan gynnwys PHP neu ASP, un gronfa ddata MySQL, a 75 o gyfeiriadau e-bost POP3 ychwanegol a'ch mynediad deialu brand eich pau eich hun. Addas ar gyfer hyd at 100 o ddefnyddwyr
Pecyn VISP200: £39+TAW y mis. Fel yr uchod ond gyda 175 o gyfeiriadau e-bost POP3 ychwanegol, 20Mb o le ychwanegol ar y We a dwy gronfa ddata MySQL a'ch mynediad deialu brand eich pau eich hun. Addas ar gyfer hyd at 200 o ddefnyddwyr
Mae'r holl brisiau dewisol yn y rhestr yn ychwanegol at y tâl gwasanaeth Aur sylfaenol £11 + TAW y mis.
1) Cyfnod contract lleiaf y gwasanaeth Aur a holl fanion ychwanegol dewisol yw un mis.
2) Nid yw tâl Sefydlu Cyfrif yn ad-daladwy.
3) Os nad ydych yn berchennog eich enw pau eich hun rhaid i chi gofrestru un cyn y gallwch ddefnyddio cyfrif Arian. Mae prisiau cyfredol yn rhedeg o tua £10 + TAW i tua £30 + TAW y flwyddyn, yn dibynnu ar enw’r bau. Cliciwch yma i gofrestru pau.
4) Pan yn defnyddio enw pau presennol neu'n cofrestru enw pau trwy drydydd parti i'w ddefnyddio gyda'n Gwasanaeth Aur, rhaid i'r cwsmer sicrhau fod y cofrestrydd a ddewiswyd yn darparu cyfleuster rheoli DNS sy'n caniatáu i’r bau ddefnyddio gweinyddion DNS Cymru 1 yn lle unrhyw weinyddion DNS sy'n cael eu darparu gan y cofrestrydd.
Mae telerau ac amodau eraill hefyd yn berthnasol. Cliciwch yma i'w darllen
|