Gobeithiwn eich bod yn hoffi ein gwefan - rydym wedi treulio llawer o amser ac ymdrech i'w chreu.
Ein nod oedd creu gwefan sy'n edrych yn dda iawn, ond heb gymryd oesoedd i lwytho i lawr, hyd yn oed y tro cyntaf y bydd rhywun yn ymweld â thudalen gan ddefnyddio modem araf.
Er mwyn gwneud hynny rydym wedi ceisio osgoi ddefnyddio graffeg oni bai fod hynny'n angenrheidiol am resymau delwedd neu er mwyn bod yn ddarllenadwy, ac wedi osgoi ddefnyddio fframiau HTML, Java ac Active X ym mhobman heblaw yn y tudalennau Fforwm, Calendr a Sganiwr Firws. Gobeithiwn y byddwch yn cytuno ein bod wedi cyflawni'r amcanion hyn. Er y caiff HTML safonol ei ddefnyddio ar gyfer yr agweddau cynllun, ni ddefnyddiwyd yr un gair o Java, nac unrhyw iaith sgriptio arall ar ochr y cleient, nac unrhyw fframiau HTML - ac eithrio tudalennau'r Fforwm, y Sganiwr Firws ar-lein a'r Calendr. Yn wir, gyda'r eithriadau hyn, cafodd yr holl "fân ddarnau" fel y galwn ni hwy, fyddai fel arfer yn cael eu cyflawni ar wefannau llai gan ddefnyddio ActiveX neu Java, eu llunio trwy ddefnyddio PHP, a'r holl brosesu yn digwydd ar y gweinydd. Mae hyn yn cynnwys llinell lywio'r wefan, y dewisiadau addasu a'r holl fariau a symbolau llywio.
Pwysicaf oll, serch hynny, mae'r wefan yn edrych fwy neu lai yn union yr un fath gydag unrhyw borwr neu fersiwn o borwr a ddewiswch ei ddefnyddio, o Netscape Navigator 4 yr holl ffordd i Internet Explorer a Netscape 6 a thu hwnt.
|