Mae nifer gynyddol o Ddarparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP) yn y DU, felly pam ddylech chi ddewis Cymru 1 ac nid un o'r lleill?
Yn gyntaf ac yn bennaf, oherwydd ein bod yn gofalu am ein cwsmeriaid. Mae llawer o gwmnïau yn y diwydiant hwn yn trin eu cwsmeriaid fel dim mwy nag enwau ar eu mantolenni, ond rydym ni'n wahanol. Byddwn bob amser yn gwneud beth bynnag a allwn i gynorthwyo ein cwsmeriaid, ac i ddatrys unrhyw broblemau allai ddigwydd.
Yn ail, rydym yn cynnig prisiau rhyfeddol o isel am ein holl wasanaethau. Rydym yn credu'n wirioneddol ein bod yn cynnig mwy am eich arian nag unrhyw un o'n cystadleuwyr. Yn wir, os cewch hyd i wasanaeth cyffelyb neu gynnig cynnyrch gan unrhyw gwmni arall sy'n ymddangos ei fod yn costio llai na ni, cofiwch sôn wrthym.
Yn olaf, ond yn sicr nid y lleiaf, rydym yn gwmni Cymreig, ac yn falch o hynny.
|