Sefydlwyd Cymru 1 gan Faris ac Alison Raouf.
Ganed Faris Raouf ym Mangor, a threuliodd y rhan fwyaf o'i blentyndod yn ardal Porthmadog. Mae ganddo radd mewn Ffiseg gyda Chyfrifiaduron, a bu ar hyd ei fywyd gwaith yn ymwneud â'r diwydiant cyfrifiaduron, yn bennaf fel newyddiadurwr technegol yn gweithio fel golygydd uwch neu gyfrannwr i gylchgronau cyfrifiadurol hysbys iawn fel PC Direct, PC Magazine, IT Week, PC Advisor, PC Explorer, a PC Utilities. O ganlyniad, mae ganddo wybodaeth heb ei debyg o'r diwydiant, a'i ysgogwyr a chynhyrfwyr, rhywbeth sy'n cael ei ddefnyddio'n i'r eithaf ganddo fel Cyfarwyddwr Cymru 1.
Magwyd Alison Raouf ym Manceinion, lle enillodd radd mewn Almaeneg. Ar ôl graddio, treuliodd rywfaint o amser yn gweithio i amrywiol gwmnïau yn ardal Manceinion, ond maes o law symudodd i Lundain, lle cyfarfu â Faris. Priodwyd y ddau yn 1997, ac maent nawr yn byw ger Porthmadog. Mae gan Alison ddawn ieithoedd naturiol ac, felly, mae ganddi eisoes wybodaeth ragorol o Gymraeg er na fu'n dysgu ond am ychydig amser.
|