Hafan  Amdanom Ni  Cynhyrchion  Ychwanegol  Statws  Cymorth
   Hafan > Amdanom Ni > Ein gweinyddion   
       
Amdanom Ni
Cyflwyniad
Ein Cwmni
Cysylltwch
Cymru 1
Pam ein dewis ni?
Y Sefydlwyr
Ein gweinyddion
Ein gwefan
Ein gynhyrchion
Polisi preifatrwydd
Telerau ac amodau
Ein gweinyddion

Dim ond caledwedd o safon fydd Cymru 1 yn ei ddefnyddio i roi'r gwasanaeth gorau posibl i chi, a gyda'r lleiaf o amser segur. Er enghraifft, ein gweinyddion Gwe yw offer Rhyngrwyd “Sun Cobalt Raq” a gweinyddion “Dell PowerEdge” rhesel-optimeiddiedig.


Y math o weinydd sy'n cael ei ddefnyddio i letya gwefannau ein cwsmeriaid Aur, er enghraifft, yw'r Dell PowerEdge 1550, yn cael eu rhedeg ar gyfer ein manyleb gyda phrosesyddion deuol Intel Pentium III 1GHz a dim llai nag 1GB o 133MHz ECC CAS3 RAM, a thros 100GB o storfa disg galed 10,000 cyf Ultra160 SCSI. Ie, rydym yn golygu 100GB ac nid 100MB.


I ddiogelu'r data sy'n cael eu cadw ar y disgiau caled hyn, maent wedi eu ffurfweddu (configured) mewn system drych RAID, sydd yn aruthrol ddrud ond yn cynnig y diogelwch gorau posibl i ddata heb achosi unrhyw ostyngiad mewn perfformiad. At hynny, caiff data o'r gyrwyr RAID eu cadw wrth gefn yn rheolaidd ar ddisgiau caled, gan roi haen arall o amddiffyniad rhag trychineb.


EIN MEDDALWEDD

Fel y rhan fwyaf o gwmnïau call sy'n darparu cyfleusterau Rhyngrwyd, mae'r gweinyddion ar gyfer cwsmeriaid Aur ac Arian yn rhedeg o dan Linux, Red Hat Linux yn ein hachos ni. Y system weithredu gadarn, uchel ei pherfformiad hon, yn ein barn ni ac ym marn y diwydiant yn gyffredinol, yw'r un orau sydd ar gael. Mae gwefannau cwsmeriaid Cymru 1 Cyswllt yn cael eu cadw ar system sy'n defnyddio Gweinydd Microsoft Windows NT ac yn rhedeg meddalwedd gwe IIS, yn cael ei amddiffyn rhag ymosodiad firws a phryf.


I roi mynediad i wefannau cwsmeriaid Aur ac Arian, byddwn yn defnyddio meddalwedd gweinydd safonol y diwydiant Apache Web. Mae hwn wedi dangos ei hun fel un o'r gweinyddion gwe mwyaf dibynadwy a galluog ar y blaned.

Fel bod ein defnyddwyr yn gallu rheoli eu peuoedd mor rhwydd ag y bo modd, byddwn yn defnyddio meddalwedd gweinyddu Plesk PSA 2. Yn gryno, mae PSA yn caniatáu i gwsmeriaid reoli eu peuoedd trwy ryngwyneb syml ar sail y We, sy'n gadael iddynt ffurfweddu'r cyfan o lawer o ddewisiadau sydd ar gael trwy glicio ychydig fotymau. Mae meddalwedd tebyg, ond llai hyblyg, yn cael ei ddarparu i gwsmeriaid Arian reoli eu peuoedd.

LLEOLIAD Y GWEINYDD

Yn anffodus, mae'n amhosibl i ni leoli ein gweinyddion yn lleol, neu'n wir yn unrhyw fan yng Nghymru. Yn wir, mae'r gweinyddion y byddwn yn eu defnyddio ar gyfer cwsmeriaid Aur ac Arian mor bell â Dociau Llundain, yn adeiladau sefydliad o'r enw RedBus.


Mae RedBus yn un o gwmnïau "cyd-leoli" pennaf y DU, yn darparu llety diogel i weinyddion wedi eu cysylltu â'r Rhyngrwyd. Yn ogystal â thîm o beirianwyr arbenigol ar y safle, sydd ar gael i ni 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos i ddatrys unrhyw broblemau caledwedd, maent yn rhoi lefelau aruthrol uchel o warant, cyflenwadau trydan methu diogel, amgylchedd tymheredd rheoledig a pheirianwaith awtomatig i synhwyro ac atal tân. Yn fyr, maent yn diwallu ein holl anghenion, er bod hynny am bris uchel. Fodd bynnag, teimlwn mai dim ond y gorau fydd yn ddigon da i'n gweinyddion a'n cwsmeriaid, felly rydym yn falch o dalu'r prisiau premiwm.


Y wefan hon (c) 2001 Cymru 1 Cyfyngedig. Cliciwch yma am wybodaeth hawlfraint, ymwrthodiad, a termau defnyddio safle We.