Hafan  Amdanom Ni  Cynhyrchion  Ychwanegol  Statws  Cymorth
   Hafan > Cynhyrchion > Dylunio gwefannau   
       
Cynhyrchion
Cyflwyniad
Cymru 1 Cyswllt
Cymru 1 Arian
Cymru 1 Aur
Cofrestru Pau
Dylunio gwefannau
Telerau ac Amodau
Dylunio gwefannau proffesiynol Cymru 1

Fel y gwyddom mae byd masnach yn newid. Trwy ddefnyddio cyfrifiaduron a'r Rhyngrwyd, trwy glicio ychydig fotymau mae gan unigolion a busnesau fel ei gilydd fynediad nawr i amrediad llawer ehangach o gynhyrchion a gwasanaethau nag erioed o'r blaen.

Er mwyn tyfu ac, mewn rhai achosion, er mwyn goroesi o gwbl, mae gan unrhyw fusnes modern, hyd yn oed y lleiaf, angen ei Wefan ei hun os yw eisiau cadw ar y blaen i ddisgwyliadau ei gwsmeriaid, a datblygiadau newydd ei gystadleuwyr. Mae hyn yn wir beth bynnag mae'r cwmni yn ei wneud neu yn ei werthu.

Ond os byddwch yn meddwl fod cael arbenigwr i greu gwefan i chi yn rhy ddrud, yna edrychwch eto. Y prisiau isaf am becynnau dylunio Gwefan Cymru 1 yw dim ond £100 + TAW, am Wefan “Siop Ffenestr” un dudalen wedi’i dylunio at chwaeth cwsmeriaid. Mae’r safleoedd hyn yn berffaith i fusnesau sydd angen bod yn bresennol ar y Rhyngrwyd, ond sydd heb lawer o gyllid i’w wario.

Ar gyfer y rhai hynny sydd eisiau Gwefan fwy cynhwysfawr yn cynnwys nifer o dudalennau, yna prisiau isaf ein pecynnau dylunio ar archeb yw dim ond £500 + TAW am safle gyda hyd at 5 tudalen, a dim ond £700 + TAW am safle gyda hyd at 10 tudalen.

Gall y Gwefannau wedi’u Teilwrio gynnwys ffurflenni cyswllt ar-lein y gall pobl sy’n ymweld â’ch safle eu defnyddio i anfon archebion, trefniadau cadw lle ac ymholiadau atoch.

Ar ben hynny gallwn greu tudalennau bargeinion arbennig, newyddion neu hysbysebion y gallwch eu golygu eich hun mewn eiliadau, ar y dudalen ei hun, heb unrhyw feddalwedd na gwybodaeth dechnegol arbennig.

Ac ar ben hynny wedyn, gallwn wneud trefniadau i gael ysgrifennu copi a gwasanaethau cyfieithu a ffotograffau digidol os oes angen.

Ac, am bris cyn ised â £10 + TAW y mis, gallwn hyd yn oed ddiweddaru eich Gwefan ar eich cyfer gydol yr amser – anfonwch chi’r newidiadau atom, ac fe wnawn ni bopeth arall.

I wneud ymholiadau ynglyn â chael creu Gwefan wedi’i dylunio’n broffesiynol ar eich cyfer, neu ynglyn â chael ailddylunio neu foderneiddio’r Wefan sydd gennych eisoes, byddwch cystal â rhoi galwad ffôn i ni ar 08000 112244 neu anfonwch Ebost at gwerthiannau@cymru1.net

Os hoffech fwrw golwg ar ddewis bychan o’r Gwefannau a ddyluniwyd gennym, cliciwch yma.

 






ENGHRAIFFT:

Roedd Peter a Catherine Wright yn gwybod eu bod angen gwefan wedi ei llunio'n broffesiynol cyn gynted ag y daethant i redeg maes carafannau Tyddyn Llwyn, ger Porthmadog, ar ôl y perchennog blaenorol. Ond yn wahanol i lawer o fusnesau bach eraill, fe wnaethant rywbeth yn ei gylch gan gysylltu â ni. Erbyn hyn mae wedi denu miloedd o ymwelwyr ac mae wedi arwain at ugeiniau o archebion allai fel arall fod wedi mynd i gystadleuydd. "Daeth ein Gwefan yn wirioneddol i'r adwy. Pan ddaeth y newyddion cyntaf am Glwy'r Traed a'r Genau, roeddem yn ofni'r gwaethaf. Ond, diolch i'n Gwefan roeddem yn gallu dweud ar unwaith wrth ddarpar gwsmeriaid ein bod ar agor ac yn rhedeg mor agos i'r arferol ag y bo modd .... a llifodd yr archebion i mewn. "

Y wefan hon (c) 2001 Cymru 1 Cyfyngedig. Cliciwch yma am wybodaeth hawlfraint, ymwrthodiad, a termau defnyddio safle We.