Yn llythrennol mae cannoedd o filoedd o becynnau meddalwedd ar gael ar y Rhyngrwyd, llawer o ohonynt yn rhadwedd (yn hollol ddi-dâl ar ofyn) a rhanwedd (profi cyn prynu). Serch hynny, mae llwytho meddalwedd i lawr o unrhyw hen wefan yn beth peryglus iawn. Felly, rydym wedi casglu rhestr o'r gwefannau llwytho i lawr gorau o'r goreuon sy'n ddiogel i lwytho i lawr ohonynt. Sylwch y dylech ddal i sganio pob ffeil a lwythwch i lawr gyda sganiwr firws diweddar, a chadw copi wrth gefn o'ch system bob amser cyn i chi osod unrhyw beth - gall gosod cymwysiadau newydd, waeth o ble y cewch hwy, achosi problemau weithiau ac mae'n well bod yn barod.
|