Hafan  Amdanom Ni  Cynhyrchion  Ychwanegol  Statws  Cymorth
   Hafan > Ychwanegol > Sganiwr firws   
       
Ychwanegol
Cyflwyniad
Diogelwch, y Rhyngrwyd a chi
Sganiwr firws ar-lein
Newyddion
Newyddion Technoleg
Meddalwedd
Celfi Rhyngrwyd
Sganiwr firws di-dâl ar-lein

Mae Cymru 1 yn falch iawn o gyflwyno nodwedd newydd sbon - sganiwr firws ar-lein sydd bob amser yn ddiweddar!

Mae hwn yn gyfleuster hollol ddi-dâl yn cael ei ddarparu ar eich cyfer gan arbenigwyr gwrth-firws Trend Micro. Mae'r sganiwr yn hawdd iawn i'w ddefnyddio. Dim ond clicio ar yr icon FREE VIRUS SCAN isod i ddechrau. Bydd hyn yn agor ffenestr newydd ar eich sgrîn ac yn dechrau'r broses o lwytho i lawr y cod sydd ei angen i'r sganiwr firws chwilio am firysau ar eich CP. Gall hyn gymryd peth amser i lwytho i lawr y tro cyntaf y byddwch yn ei ddefnyddio, ond byddwch yn sicr y bydd pethau yn LLAWER cyflymach y tro nesaf y defnyddiwch o. A gobeithiwn y byddwch yn ei ddefnyddio'n aml, gan fod firysau cyfrifiadur yn newydd drwg i'ch system, ac mae'n bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr nad oes gennych un yn llechu yn rhywle. Fodd bynnag, os gallwch fforddio un, rydym yn argymell eich bod yn prynu cyfleustod gwrth-firws o safon i fod ar eich CP yn barhaol. Bydd gwneud hynny yn rhoi amddiffyniad llawer gwell i chi rhag firysau ond i chi ei gadw'n ddiweddar bob amser.


Sylwch: Dim ond ar CP sy'n rhedeg Microsoft Windows y bydd ein sganiwr firws ar-lein yn gweithio.






Google



Chwilotwr "Diogel i blant" Cymru 1
- yn cael ei yrru gan SurfSafely.com

Y wefan hon (c) 2001 Cymru 1 Cyfyngedig. Cliciwch yma am wybodaeth hawlfraint, ymwrthodiad, a termau defnyddio safle We.