Hafan  Amdanom Ni  Cynhyrchion  Ychwanegol  Statws  Cymorth
   Hafan > Cymorth > Cymru 1 Cyswllt > E-bost   
       
Cyswllt
Cyflwyniad
Problemau cysylltu
Problemau E-bost
Problemau Wefan
Problemau eraill
Problemau E-bost

Os ydych yn cael problemau gydag anfon neu dderbyn E-bost, dyma'r lle i ddod.

Rhaid cysylltu i'r rhyngrwyd trwy ein rhif 0845/0844 er mwyn defnyddio eich cyfeiriad ebost @cymru1.net trwy'r protocol "POP3" (e.e. Outlook Express).

Dewiswch y math o broblem sydd gennych:

Problemau gyda We-bost (Webmail)

Problemau gydag Outlook neu Outlook Express



Problemau Webmail

I ddefnyddio ein system Webmail, sy'n gadael i chi anfon a derbyn e-bost trwy eich porwr Gwe (e.e. Internet Explorer), dim ond pwyntio eich porwr at http://webmail.cymru1.net sydd raid (mewn geiriau eraill teipio hyn yn llinell cyfeiriad eich porwr a phwyso RETURN/ENTER ar eich bysellfwrdd)



Bydd hyn yn mynd â chi i sgrîn mewngofnodi Webmail Cymru 1. Yn y blwch cyfeiriad E-bost, teipiwch eich cyfeiriad e-bost Cymru 1 llawn gan gynnwys yr @cymru1.net. Er enghraifft, os wnaethoch chi ddewis 'dafydd' fel enw defnyddiwr wrth ymuno, eich cyfeiriad e-bost fyddai dafydd@cymru1.net a dyma beth ddylech ei deipio yn y blwch cyfeiriad E-bost.



Yn y blwch cyfrinair, teipiwch y cyfrinair a wnaethoch chi ddewis wrth ymuno (bydd “*” yn ymddangos am bob llythyren a deipiwch - mae hyn er diogelwch ac yn berffaith arferol.



Os rhowch chi dic yn y blwch “Remember Me”, bydd ein system Webmail yn eich logio yn awtomatig pan ddowch yno nesaf. SYLWCH: Os bydd pobl eraill yn defnyddio eich cyfrifiadur, ac nad ydych am iddynt gael gafael ar eich e-bost, mae'n well peidio ticio'r blwch hwn.



Yn olaf, cliciwch ar y botwm “Log In”. Bydd hyn yn mynd â chi i system Webmail Cymru 1. Mae help ar-lein am y system ar gael o'r sgrîn hon i roi rhagor o wybodaeth i chi ar sut i'w defnyddio.




Problemau gydag Outlook neu Outlook Express


Os ydych yn cael problemau wrth anfon neu dderbyn e-bost wrth ddefnyddio Microsoft Outlook neu Outlook Express, rhowch gynnig i ddechrau ar ddefnyddio ein system Webmail (a eglurwyd uchod). Os gallwch anfon neu dderbyn e-bost yn llwyddiannus wrth ddefnyddio Webmail, ond nid wrth ddefnyddio Outlook neu Outlook Express, yna mae'n amlwg fod problem gyda ffurfweddu eich meddalwedd, felly darllenwch ymlaen.



Er mwyn i Outlook neu Outlook Express anfon a derbyn e-bost yn llwyddiannus, mae'r rhaglen eisiau gwybod pump o bethau allweddol:



Enw eich cyfrif e-bost


Eich cyfrinair e-bost


Eich cyfeiriad e-bost


Y gweinydd e-bost POP3 (derbyn) y dylai ddefnyddio


Y gweinydd e-bost SMTP (anfon) y dylai ddefnyddio.



Yn Outlook ac Outlook Express, mae enw eich Cyfrif e-bost yn union yr un fath â'ch cyfeiriad E-bost Cymru 1, gan gynnwys yr @cymru1.net ar y diwedd. Er enghraifft, os wnaethoch chi ddewis dafydd fel enw defnyddiwr wrth ymuno â'ch cyfrif Cymru 1 Cyswllt, yna eich cyfeiriad e-bost ac felly hefyd eich enw cyfrif e-bost fyddai dafydd@cymru1.net. Eich cyfrinair e-bost yw'r cyfrinair a wnaethoch chi ddewis wrth ymuno. Mae'r cyfrinair hwn hefyd yn cael ei ddefnyddio i gael mynediad i Webmail ac i gael mynediad deialu.



Y gweinydd POP3 Cymru 1 y dylech ddweud wrth Outlook neu Outlook Express ei ddefnyddio yw pop3.cymru1.net



Y gweinydd SMTP y dylech ddweud wrth Outlook neu Outlook Express ei ddefnyddio yw smtp.cymru1.net


FODD BYNNAG, os ydych yn defnyddio ISP arall i gysylltu â'r Rhyngrwyd am ryw reswm (mewn geiriau eraill os nad ydych yn defnyddio'r rhifau deialu 0845/0844 Cymru 1 i gysylltu â'r Rhyngrwyd), yna fe gewch wall os byddwch yn ceisio defnyddio gweinydd SMTP Cymru 1 (smtp.cymru1.net). Mae hyn er diogelwch, yn anelu at atal camddefnyddio ein cyfleusterau e-bost. Gallwch ddod dros y broblem hon trwy ddefnyddio ein system Webmail, neu gallwch deipiwch enw gweinydd SMTP pwy bynnag a ddefnyddiwch i gysylltu â'r Rhyngrwyd. Er enghraifft, os ydych yn defnyddio BT Openworld i gysylltu â'r Rhyngrwyd yn hytrach na Cymru 1, dylech ddefnyddio smtp.btopenworld.com yn lle smtp.cymru1.net fel eich gweinydd e-bost SMTP (anfon).





Sut i deipio enw eich cyfrif, cyfrinair, gweinydd POP3 a gweinydd SMTP

Yn ystod y broses o ymuno â gwasanaeth Cymru 1 Cyswllt, fe gawsoch y dewis o glicio ar yr eicon arbennig, fyddai'n ffurfweddu pob un o'r gosodiadau hyn i chi yn Outlook neu Outlook Express yn awtomatig.



Os na weithiodd hyn, neu os byddwch angen ei wneud eto, bydd y canlynol yn eich helpu i'w wneud eich hun.



Mae sut fyddwch yn teipio y manylion angenrheidiol yn union yn dibynnu ar y fersiwn o Outlook neu Outlook Express sydd gennych.



Dewiswch o'r canlynol:

Outlook Express (5.x neu 6.x)

Outlook (yn Office 2000 a chynharach)

Outlook (yn Office XP)



Outlook Express 5 neu 6

Lansiwch Outlook. Cliciwch ar y ddewislen gwympo “Tools”, a dewis “Accounts” o'r rhestr hon.



Bydd ffenestr newydd o'r enw “Internet Accounts” yn ymddangos, gydag thabiau ar draws y top (“All”, “Mail” ac ati). Cliciwch ar y tab “Mail”.


Edrychwch i weld os gallwch ddod o hyd i unrhyw gyfrifon ar gyfer eich e-bost Cymru 1 yn y ffenestr hon.

OS NA ALLWCH WELD CYFRIF O'R ENW pop3.cymru1.net NEU UNRHYW BETH GYDA cymru1 YNDDO, MAE ANGEN I CHI GREU CYFRIF NEWYDD - cliciwch yma

OS GALLWCH WELD CYFRIF O'R ENW pop3.cymru1.net, NEU YN WIR UNRHYW BETH GYDA cymru1.net YNDDO, gwnewch y canlynol:


1) Defnyddiwch eich llygoden i glicio ar cymru1 i'w amlygu, yna cliciwch ar y botwm “Properties”.



2) bydd ffenestr newydd yn ymddangos gyda thabiau ar draws y top (“General”, “Servers”, “Connection” .. ac ati).



3) Yn y tab “General”, yn y blwch cyntaf o dan “Mail Account”, dylech weld enw'r cyfrif fel mae yn cael ei restru'n y ffenestr flaenorol. Os ydych eisiau, gallwch newid yr enw i rywbeth arall i'ch helpu i ddod o hyd iddo yn y dyfodol. Gallwch ei alw yn unrhyw beth, fel pop3.cymru1.net neu E-bost Cymru 1.



4) Yn y rhan “User Information”, dylai eich enw ymddangos. Os nad yw, yna dim ond teipio eich enw sydd angen ac (os ydych chi am) enw eich sefydliad yn y maes “Organisation” (e.e. Dafydd Davies yn y maes “Name”, a Davies Cyfyngedig yn y maes “Organisation”). Nid yw'n bwysig yn union beth deipiwch yma, ond mae'n cael ei anfon gyda'ch e-bost, felly peidiwch â rhoi unrhyw beth anweddus neu anghyfreithlon yma.



5) Yn y maes “Email address”, dylai eich cyfeiriad e-bost Cymru 1 ymddangos. Os nad yw, teipiwch eich cyfeiriad e-bost Cymru 1 (e.e. dafydd@cymru1.net).



5) Fel arfer nid oes angen rhoi unrhyw beth yn y maes “Reply address” ond, os ydych eisiau, gallwch deipio eich cyfeiriad e-bost yma eto. (e.e. dafydd@cymru1.net)



7) Gwnewch yn siŵr fod tic yn y blwch “Include this account when receiving mail or synchronising”.



8) Nawr cliciwch ar y tab “Servers” ar dop y ffenestr.



9) Dylech weld llinell sy'n dweud “My incoming mail server is a POP3 server”.




10) Yn y llinell “Incoming mail (POP3)”, gwnewch yn siŵr ei fod yn dweud “pop3.cymru1.net” (heb y dyfyniadau). Os nad yw, newidiwch o.



11) Yn y llinell “Outgoing mail (SMTP)”, gwnewch yn siŵr ei fod yn dweud smtp.cymru1.net (heb y dyfyniadau). Os nad yw, newidiwch o.


(Os ydych yn defnyddio ISP arall ac nid Cymru 1 i ddarparu eich cyfleusterau deialu, rhowch enw gweinydd SMTP yr ISP yn y llinell hon yn ei le)



12) Yn y llinell “Account name”, gwnewch yn siŵr fod enw eich Cyfrif E-bost yn cael ei restru (e.e. dafydd@cymru1.net)



13) Teipiwch eich cyfrinair yn y llinell “Password”. Er diogelwch, bydd “*” yn dangos am bob llythyren yn eich cyfrinair yn hytrach na'r cyfrinair ei hun.



14) Gwnewch yn siŵr fod “Log on using Secure Password Authentication” heb ei dicio.



15) Gwnewch yn siŵr fod “My server requires authorisation” heb ei dicio.



Erbyn hyn rydych wedi teipio neu edrych ar bob prif eitem. Dylech nawr allu defnyddio Outlook Express i anfon a derbyn e-bost.



OS NA ALLWCH WELD CYFRIF O'R ENW pop3.cymru1.net NEU UNRHYW BETH GYDA cymru1 YNDDO, MAE ANGEN I CHI GREU CYFRIF NEWYDD fel a ganlyn:


I greu cyfrif newydd, gwnewch y canlynol:


1) Cliciwch ar y botwm “Add” a dewis “Mail” o'r rhestr o eitemau sy'n ymddangos.



2) Bydd hyn yn lansio “Wizard” fydd yn gofyn rhai cwestiynau ac yn sefydlu eich system e-bost yn awtomatig.



3) Cwestiwn cyntaf y “Wizard” fydd eich enw. Rhowch eich enw, fel y byddwch am iddo ymddangos yn eich e-bost.





4) Cliciwch ar y botwm “Next”



5) Yn y sgrîn nesaf, gwnewch yn siŵr fod “I already have an e-mail address that I'd like to use” wedi ei ddewis. Yn y llinell “Email address”, teipiwch eich cyfeiriad e-bost (e.e. dafydd@cymru1.net)



6) Cliciwch ar y botwm “Next”



7) Yn y sgrîn nesaf, gwnewch yn siŵr fod “POP3” wedi ei ddewis yn y llinell “My Incoming mail server is”. Os nad yw, newidiwch o.



8) Yn y llinell “Incoming mail (POP3, IMAP or HTTP) server”, teipiwch enw gweinydd POP3 Cymru 1, sef pop3.cymru1.net



9) Yn y llinell “Outgoing mail (SMTP) server”, teipiwch enw gweinydd SMTP Cymru 1, sef smtp.cymru1.net (Heblaw eich bod yn defnyddio ISP arall i gysylltu â'r Rhyngrwyd ac nid Cymru 1. Os ydych, dylech deipio enw gweinydd SMTP yr ISP ac nid gweinydd SMTP Cymru 1)



10) Cliciwch ar y botwm “Next”



11) Yn y sgrîn nesaf, teipiwch eich cyfeiriad e-bost yn y llinell “Account name” (e.e. dafydd@cymru1.net)



12) Yn y llinell “Password”, teipiwch eich cyfrinair Cymru 1. Cliciwch ar “Remember Password” os ydych eisiau i Outlook gofio eich cyfrinair o hyn ymlaen. Mae hyn yn syniad da oni bai fod pobl eraill yn defnyddio eich cyfrifiadur ac nad ydych eisiau iddynt ddarllen eich e-bost.



13) Gwnewch yn siŵr fod “Log on using Secure Password Authentication” heb ei dicio.



14) Cliciwch ar y botwm “Next”




15) Rydych bron â gorffen. Bydd y sgrîn nesaf yn dweud wrthych eich bod wedi gorffen sefydlu eich cyfrif. Nawr cliciwch ar y botwm “Finish”. Bydd cyfrif newydd wedi cael ei greu ar eich cyfer o'r enw pop3.cymru1.net. Byddwch yn ei weld yn cael ei restru'n y tab “Mail” yn ffenestr “Internet Accounts”.



16) I gau'r ffenestr hon, cliciwch ar y botwm “Close”.



17) Cliciwch ar y botwm mawr “Send/Recv” yn rhes botymau Outlook Express ar dop y sgrîn i anfon a derbyn eich e-bost. Mae mwy o help ar ddefnyddio Outlook Express i'w weld trwy ddefnyddio dewislen Help Outlook Express, yn union i'r dde o'r ddewislen “Messages” ar dop prif ffenestr Outlook Express.








Microsoft Outlook (yn Office 2000 a chynharach)

Lansiwch Outlook. Cliciwch ar y ddewislen gwympo “Tools”, a dewis “Accounts” o'r rhestr hon.



Bydd ffenestr newydd o'r enw “Internet Accounts” yn ymddangos, gydag thabiau ar draws y top (“All”, “Mail” ac ati). Cliciwch ar y tab “Mail”.


Edrychwch i weld os gallwch ddod o hyd i unrhyw gyfrifon ar gyfer eich e-bost Cymru 1 yn y ffenestr hon.


OS NA ALLWCH WELD CYFRIF O'R ENW pop3.cymru1.net NEU UNRHYW BETH GYDA cymru1 YNDDO, MAE ANGEN I CHI GREU CYFRIF NEWYDD - cliciwch yma

OS GALLWCH WELD CYFRIF O'R ENW pop3.cymru1.net, NEU YN WIR UNRHYW BETH GYDA cymru1.net YNDDO, gwnewch y canlynol:

1) Defnyddiwch eich llygoden i glicio ar cymru1 i'w amlygu, yna cliciwch ar y botwm “Properties”.



2) bydd ffenestr newydd yn ymddangos gyda thabiau ar draws y top (“General”, “Servers”, “Connection” .. ac ati).



3) Yn y tab “General”, yn y blwch cyntaf o dan “Mail Account”, dylech weld enw'r cyfrif fel mae yn cael ei restru'n y ffenestr flaenorol. Os ydych eisiau, gallwch newid yr enw i rywbeth arall i'ch helpu i ddod o hyd iddo yn y dyfodol. Gallwch ei alw yn unrhyw beth, fel pop3.cymru1.net neu E-bost Cymru 1.



4) Yn y rhan “User Information”, dylai eich enw ymddangos. Os nad yw, yna dim ond teipio eich enw sydd angen ac (os ydych chi am) enw eich sefydliad yn y maes “Organisation” (e.e. Dafydd Davies yn y maes “Name”, a Davies Cyfyngedig yn y maes “Organisation”). Nid yw'n bwysig yn union beth deipiwch yma, ond mae'n cael ei anfon gyda'ch e-bost, felly peidiwch â rhoi unrhyw beth anweddus neu anghyfreithlon yma.



5) Yn y maes “Email address”, dylai eich cyfeiriad e-bost Cymru 1 ymddangos. Os nad yw, teipiwch eich cyfeiriad e-bost Cymru 1 (e.e. dafydd@cymru1.net).



5) Fel arfer nid oes angen rhoi unrhyw beth yn y maes “Reply address” ond, os ydych eisiau, gallwch deipio eich cyfeiriad e-bost yma eto. (e.e. dafydd@cymru1.net)



7) Gwnewch yn siŵr fod tic yn y blwch “Include this account when receiving mail or synchronising”.



8) Nawr cliciwch ar y tab “Servers” ar dop y ffenestr.



9) Dylech weld llinell sy'n dweud “My incoming mail server is a POP3 server”.




10) Yn y llinell “Incoming mail (POP3)”, gwnewch yn siŵr ei fod yn dweud “pop3.cymru1.net” (heb y dyfyniadau). Os nad yw, newidiwch o.



11) Yn y llinell “Outgoing mail (SMTP)”, gwnewch yn siŵr ei fod yn dweud smtp.cymru1.net (heb y dyfyniadau). Os nad yw, newidiwch o.


(Os ydych yn defnyddio ISP arall ac nid Cymru 1 i ddarparu eich cyfleusterau deialu, rhowch enw gweinydd SMTP yr ISP yn y llinell hon yn ei le)



12) Yn y llinell “Account name”, gwnewch yn siŵr fod enw eich Cyfrif E-bost yn cael ei restru (e.e. dafydd@cymru1.net)



13) Teipiwch eich cyfrinair yn y llinell “Password”. Er diogelwch, bydd “*” yn dangos am bob llythyren yn eich cyfrinair yn hytrach na'r cyfrinair ei hun.



14) Gwnewch yn siŵr fod “Log on using Secure Password Authentication” heb ei dicio.



15) Gwnewch yn siŵr fod “My server requires authorisation” heb ei dicio.



Erbyn hyn rydych wedi teipio neu edrych ar bob prif eitem. Dylech nawr allu defnyddio Outlook Express i anfon a derbyn e-bost.





OS NA ALLWCH WELD CYFRIF O'R ENW pop3.cymru1.net NEU UNRHYW BETH GYDA cymru1 YNDDO, MAE ANGEN I CHI GREU CYFRIF NEWYDD fel a ganlyn:


I greu cyfrif newydd, gwnewch y canlynol:


1) Cliciwch ar y botwm “Add” a dewis “Mail” o'r rhestr o eitemau sy'n ymddangos.



2) Bydd hyn yn lansio “Wizard” fydd yn gofyn rhai cwestiynau ac yn sefydlu eich system e-bost yn awtomatig.



3) Cwestiwn cyntaf y “Wizard” fydd am eich enw “Display”. Dim ond dweud eich enw wrtho sydd raid, fel yr ydych am iddo ymddangos yn eich e-bost.





4) Cliciwch ar y botwm “Next”



5) Yn y sgrîn nesaf mae angen i chi ddweud eich cyfeiriad e-bost wrth Outlook. Felly yn y llinell “Email address” teipiwch eich cyfeiriad e-bost (e.e. dafydd@cymru1.net)



6) Cliciwch ar y botwm “Next”



7) Yn y sgrîn nesaf, gwnewch yn siŵr fod POP3 wedi ei ddewis yn y llinell “My Incoming mail server is”. Os nad yw, newidiwch o.



8) Yn y llinell “Incoming mail (POP3, IMAP or HTTP) server”, teipiwch enw gweinydd POP3 Cymru 1, sef pop3.cymru1.net



9) Yn y llinell “Outgoing mail (SMTP) server”, teipiwch enw gweinydd SMTP Cymru 1, sef smtp.cymru1.net (Heblaw eich bod yn defnyddio ISP arall i gysylltu â'r Rhyngrwyd ac nid Cymru 1. Os ydych, dylech deipio enw gweinydd SMTP yr ISP ac nid gweinydd SMTP Cymru 1)



10) Cliciwch ar y botwm “Next”



11) Yn y sgrîn nesaf, teipiwch eich cyfeiriad e-bost yn y llinell “Account name” (e.e. dafydd@cymru1.net)



12) Yn y llinell “Password”, teipiwch eich cyfrinair Cymru 1. Cliciwch ar “Remember Password” os ydych eisiau i Outlook gofio eich cyfrinair o hyn ymlaen. Mae hyn yn syniad da oni bai fod pobl eraill yn defnyddio eich cyfrifiadur ac nad ydych eisiau iddynt ddarllen eich e-bost.



13) Gwnewch yn siŵr fod “Log on using Secure Password Authentication” heb ei dicio.



14) Cliciwch ar y botwm “Next”




15) Rydych bron â gorffen. Os bydd y “Wizard” nawr eisiau gwybod sut fyddwch yn cysylltu â'r Rhyngrwyd, dywedwch wrtho eich bod eisiau sefydlu cysylltiad eich hun (y dewis olaf).

16) Cliciwch ar y botwm “Next”

17) Bydd Outlook yn dweud wrthych eich bod wedi rhoi'r holl fanylion yn llwyddiannus a'ch bod yn barod i fynd.

18) Cliciwch ar y botwm “Finish”.



19) Cliciwch ar y botwm “Close” i gau'r ffenestr cyfrifon e-bost.

20) Cliciwch ar y botwm mawr “Send/Recv” yn y bar botymau Outlook tua thop y sgrîn i anfon a derbyn eich e-bost. Mae mwy o help ar ddefnyddio Outlook i'w weld trwy ddefnyddio dewislen “Help” Outlook, yn union i'r dde o ddewislen “Messages” ar ben prif ffenestr Outlook Express.





Microsoft Outlook XP (yn Office XP [2002])

Mae gan y fersiwn o Outlook yn Microsoft Office XP ryngwyneb defnyddiwr ychydig yn wahanol i'r fersiwn yn Office 2000 a chynharach.



I ddarganfod os yw'r ffurfweddu yn gywir, rhedwch Outlook, cliciwch ar ddewislen “Tools”, a dewiswch “E-Mail accounts” o'r rhestr.



Y cam cyntaf yw gweld os oes sôn am eich E-bost Cymru 1 presennol. I wneud hyn, dewiswch “View or Change existing Email accounts”, a chliciwch ar “Next”.



Dylech nawr fod yn edrych ar restr o'ch Cyfrifon e-bost presennol.


OS NAD YW CYFRIF CYMRU 1 WEDI EI RESTRU, NEU DDIM UN CYFRIF WEDI EI RESTRU, cliciwch yma


OS GALLWCH WELD CYFRIF Cymru 1, gwnewch y canlynol:


1) Cliciwch ar Cymru 1 i'w amlygu, yna cliciwch ar y botwm “Change”. Bydd ffenestr newydd yn ymddangos.



2) Yn y llinell “User Information”, gwnewch yn siŵr fod eich enw neu sefydliad yn cael ei restru yn “Your Name”. Dyma beth fydd yn cael ei anfon gyda'ch e-bost - nid yw'n bwysig beth yw cyn belled â'ch bod yn hapus i bobl eraill ei weld ar ben eich holl e-bost.



3) Yn y llinell “E-mail Address”, gwnewch yn siŵr fod eich cyfeiriad e-bost Cymru 1 yn cael ei ddangos (e.e. dafydd@cymru1.net).



4) Yn y llinell “User Name”, gwnewch yn siŵr fod eich cyfeiriad E-bost Cymru 1 yn cael ei ddangos (e.e. dafydd@cymru1.net) yn y llinell hon.



5) Yn y llinell “Password”, teipiwch eich cyfrinair Cymru 1. Chi ddewisodd hwn wrth ymuno. Mae yr un fath â'ch cyfrinair deialu. Pan deipiwch eich cyfrinair yn y llinell hon, byddwch yn gweld “*” yn ymddangos yn lle pob llythyren yn eich cyfrinair - mae hyn er diogelwch.



6) Gwnewch yn siŵr fod tic yn y blwch “Remember password” yn lle gorfod teipio eich cyfrinair bob tro y byddwch yn casglu eich e-bost. Fodd bynnag, os bydd pobl eraill yn defnyddio eich cyfrifiadur ac na fyddwch eisiau iddynt gasglu eich e bost, peidiwch â rhoi tic yma.



7) Gwnewch yn siŵr nad oes tic yn y blwch “Log on using Secure Password Authentication”.



8) Yn y llinell “Incoming mail server (POP3)”, gwnewch yn siŵr ei fod yn dweud “pop3.cymru1.net” (heb y dyfyniadau). Os nad yw, newidiwch o.



9) Yn y llinell “Outgoing mail server (SMTP)”, gwnewch yn siŵr ei fod yn dweud “smtp.cymru1.net” (heb y dyfyniadau). Os nad yw, newidiwch o. Fodd bynnag, os ydych yn defnyddio ISP arall ac nid Cymru 1 i gysylltu â'r Rhyngrwyd, rhowch enw gweinydd SMTP yr ISP arall yn ei le.



10) Erbyn hyn dylai popeth fod yn gweithio'n iawn. Os cliciwch ar y botwm “Test Account Settings”, bydd Outlook XP yn sicrhau fod popeth yn gweithio'n iawn, a bydd yn dweud wrthych beth sydd heb fod yn gweithio - gall hyn eich helpu i ddatrys problemau ychwanegol.



OS NAD YW CYFRIF CYMRU 1 WEDI EI RESTRU, NEU DDIM CYFRIF WEDI EI RESTRU, gwnewch y canlynol:


1) Cliciwch ar y botwm “Add” o'r ffenestr restru “E-mail Accounts” (neu dewiswch “Add a new e-mail account” o'r ffenestr “E-mail Accounts” gyntaf un).



2) O'r ffenestr restru “Server Type”, dewiswch “POP3” a chliciwch ar y botwm “Next”.



3) O dan y pennawd “User Information”, teipiwch eich enw neu sefydliad yn y llinell “Your Name”. Dyma'r union wybodaeth fydd yn cael ei anfon gyda'ch e-bost - nid yw'n bwysig beth yw cyn belled â'ch bod yn hapus i bobl eraill ei weld ar ben eich holl e-bost.



4) Yn y llinell “E-mail Address”, teipiwch eich cyfeiriad e-bost Cymru 1 (e.e. dafydd@cymru1.net).



5) Yn y llinell “User Name”, teipiwch eich cyfeiriad E-bost Cymru 1 eto (e.e. dafydd@cymru1.net).



6) Yn y llinell “Password”, teipiwch eich cyfrinair Cymru 1 Cyswllt. Chi ddewisodd hwn wrth ymuno. Mae yr un fath â'ch cyfrinair deialu. Pan deipiwch eich cyfrinair yn y llinell hon, byddwch yn gweld “*” yn ymddangos yn lle pob llythyren yn eich cyfrinair - mae hyn er diogelwch.



7) Gwnewch yn siŵr fod tic yn y blwch “Remember password” yn lle gorfod teipio eich cyfrinair bob tro y byddwch yn casglu eich e-bost. Fodd bynnag, os bydd pobl eraill yn defnyddio eich cyfrifiadur ac na fyddwch eisiau iddynt gasglu eich e bost, peidiwch â rhoi tic yma.



8) Gwnewch yn siŵr nad oes tic yn y blwch “Log on using Secure Password Authentication”.



9) Yn y llinell “Incoming mail server (POP3)”, teipiwch “pop3.cymru1.net” (heb y dyfyniadau).



10) Yn y llinell “Outgoing mail server (SMTP)”, teipiwch “smtp.cymru1.net” (heb y dyfyniadau). Fodd bynnag, os ydych yn defnyddio ISP arall ac nid Cymru 1 i gysylltu â'r Rhyngrwyd, rhowch enw gweinydd SMTP yr ISP arall yma yn ei le.



11) Ar hyn o bryd dylai popeth fod yn gweithio'n iawn. Os cliciwch ar y botwm “Test Account Settings”, bydd Outlook XP yn sicrhau fod popeth yn gweithio'n iawn, a bydd yn dweud wrthych beth sydd heb fod yn gweithio - gall hyn eich helpu i ddatrys problemau ychwanegol.

Y wefan hon (c) 2001 Cymru 1 Cyfyngedig. Cliciwch yma am wybodaeth hawlfraint, ymwrthodiad, a termau defnyddio safle We.