Ystyr FTP yw “File Transfer Protocol”, sef protocol mae pob gwefan yn ei ddefnyddio i ganiatáu i gwsmeriaid lwytho eu ffeiliau i fyny (anfon) i'w lle ar y We. Dim ond cleient yw FTP sy'n deall y protocol hwn ac mae wedi ei ddylunio'n benodol at lwytho i fyny (anfon) a hefyd at lwytho i lawr (derbyn) ffeiliau o Wefannau.
Rhai enghreifftiau o gleient FTP yw CuteFTP, WS-FTP a FTP Voyager. Cliciwch ar enw'r rhaglen i fynd i Wefan cyhoeddwr y rhaglen. Gallwch hefyd weld mwy o raglenni FTP trwy ymweld â www.download.com a chwilio am FTP. SYLWCH: Mae gan rhai golygyddion HTML gyfleusterau FTP ynddynt. Os felly y mae gyda'ch golygydd HTML, ni fydd angen i chi lwytho cleient FTP i lawr ar wahân.
Defnyddio eich cleient FTP i gysylltu â'ch Lle personol ar y We.
Er mwyn cysylltu gyda'ch lle personol ar y We, bydd angen i chi ddweud y tri pheth canlynol wrth eich cleient FTP:
1) Enw / cyfeiriad y gweinydd FTP
2) Eich enw defnyddiwr / enw cyfrif FTP
3) Eich cyfrinair FTP
Mae enw / cyfeiriad y gweinydd FTP y dylech ei ddefnyddio yn dibynnu ar eich enw defnyddiwr Cymru 1, a bydd yn edrych rhywbeth yn debyg i www.eichenwdefnyddiwr.cymru1.net. Er enghraifft, os wnaethoch chi ddewis enw defnyddiwr dafydd wrth ymuno, a chyfeiriad e-bost felly o dafydd@cymru1.net, yr enw gweinydd FTP ddylech ddefnyddio fyddai www.dafydd.cymru1.net
Mae eich enw defnyddiwr FTP yn debyg i'ch cyfeiriad e-bost, ond gyda “.” (atalnod llawn) yn lle “@”. Felly os mai dafydd@cymru1.net yw eich cyfeiriad e-bost, eich enw defnyddiwr FTP fyddai dafydd.cymru1.net
Mae eich cyfrinair FTP yr un fath â'ch cyfrinair e-bost, webmail a deialu.
NODYN PWYSIG:
Ni allwch ysgogi na llwytho ffeiliau i fyny i'ch lle personol ar y We oni bai eich bod yn cysylltu â'r Rhyngrwyd gyda gwasanaeth Cymru 1 Cyswllt. Mewn geiriau eraill rhaid i chi ddefnyddio rhifau deialu Cymru 1 (0844 535 1740) i gysylltu â'r Rhyngrwyd cyn y gallwch ysgogi neu lwytho i fyny i'ch lle personol cyfrif Connect ar y We.
|