Hafan  Amdanom Ni  Cynhyrchion  Ychwanegol  Statws  Cymorth
   Hafan > Cymorth > Cymru 1 Cyswllt > Problemau Eraill   
       
Cyswllt
Cyflwyniad
Problemau cysylltu
Problemau E-bost
Problemau Wefan
Problemau eraill
Problemau Eraill

Mae'r rhan hon yn cynnwys gwybodaeth am broblemau sydd heb fod â dim i'w wneud ag e-bost, cysylltu na gwefannau.


Mae gwybodaeth yma am:

Cysylltu â grwpiau newyddion Usenet



Usenet News (grwpiau newyddion)

I ddarllen Usenet News (hefyd yn dwyn yr enw grwpiau newyddion Rhyngrwyd), rydych chi angen rhaglen cleient newyddion. Mae amryw o gleientiaid grŵp newyddion masnachol, rhanwedd a rhadwedd ar gael, ond mae'n werth gwybod fod Outlook Express, y bydd gan bawb sy'n rhedeg Windows, gleient grŵp newyddion yn rhan ohono.

Awn ymlaen i ddisgrifio sut i sefydlu Outlook Express i gysylltu â gweinydd newyddion Cymru 1 (y gweinydd sy'n rhoi mynediad i'r grwpiau newyddion) mewn ennyd. Ond ar gyfer defnyddwyr o unrhyw fath arall o gleient grŵp newyddion, gweinydd newyddion Cymru1 (NNTP) yw

news.cymru1.net

Dyma'r cyfan sydd angen i chi wybod - nid oes unrhyw gyfrinair nac enw defnyddiwr i boeni amdanynt. Fodd bynnag, sylwch mai dim ond os cysylltwch â'r Rhyngrwyd trwy Cymru 1 y gallwch gysylltu â gweinydd newyddion Cymru 1 ac nid trwy ISP arall.





Cysylltu â gweinydd newyddion Cymru 1 trwy ddefnyddio Outlook Express

1) Lansiwch Outlook Express.

2) Os na fyddwch yn defnyddio Outlook i anfon neu dderbyn e-bost, cliciwch ar y botwm “No” os bydd Outlook Express yn gofyn i chi os ydych am ei gael fel eich cleient e-bost diofyn.

3) Cliciwch ar ddewislen gwympo “Tools”, yna dewis “Accounts”.

4) Dylech nawr weld ffenestr newydd gyda thabiau ar draws y top – “All”, “Mail”, “News” ac felly ymlaen.

5) Cliciwch ar y tab “News”.

6) Os ydi Cymru 1 eisoes yn y rhestr sy'n ymddangos, mae Outlook Express eisoes wedi cael ei ffurfweddu i gysylltu â gweinydd Newyddion Cymru 1. Edrychwch ar gyfleusterau help ar-lein Outlook Express (cliciwch ar y ddewislen Help) i gael manylion o sut i ddefnyddio'r rhaglen i ddarllen y grwpiau newyddion.


Os na allwch chi weld Cymru 1 yn y rhestr Newyddion, bydd angen i chi greu cyfrif newyddion. Gwnewch hyn fel a ganlyn


7) Cliciwch ar y botwm “Add” a dewis “News” o'r rhestr fydd yn ymddangos.

8) Bydd “Wizard” yn ymddangos yn gofyn am rai manylion. Y peth cyntaf fydd eisiau fydd eich enw. Hwn yw'r enw fydd yn cael ei anfon gydag unrhyw neges a anfonwch i unrhyw grwpiau newyddion. Teipiwch eich enw a chliciwch ar y botwm “Next”

9) Y cwestiwn nesaf fydd eich cyfeiriad e-bost. I OSGOI “SBAM” (e-bost sothach), awgrymwn i chi deipio spam@go.away.spammers yma yn hytrach na'ch cyfeiriad e-bost. Mae hyn oherwydd bod “sbamwyrs” yn tueddu i chwilio'r grwpiau newyddion a chael gafael ar gyfeiriad e-bost yn awtomatig. Fel arall gallwch deipio rhywbeth y gall person ei ddeall ond na fydd peiriant awtomatig yn gallu. Er enghraifft, os mai eich gwir gyfeiriad e-bost yw dafydd@cymru1.net, gallwch deipio nospam@dafydd.at.cymru1.net. Bydd hyn yn dal i adael i rywfaint o e-bost dieisiau eich cyrraedd.

10) Cliciwch ar y botwm “Next”

11) Nawr daw'r cwestiwn pwysicaf oll - enw eich “News (NNTP) server”. I ddefnyddwyr Cymru 1, hwn yw

news.cymru1.net

12) Gwnewch yn siŵr fod “My news server requires me to log on” heb ei dicio.


13) Cliciwch ar “Next”.


14) Dylech nawr weld sgrîn sy'n dweud wrthych eich bod wedi sefydlu cysylltiad y gweinydd newyddion yn llwyddiannus. Cliciwch “Finish”.


15) Cliciwch ar y botwm “Close” i gau'r ffenestr “Internet Accounts”.


16) Bydd Outlook Express yn gofyn os byddwch eisiau llwytho'r grwpiau newyddion i lawr o'r cyfrif newyddion a ychwanegwyd gennych.


Os cliciwch ar “Yes”, bydd Outlook Express yn llwytho i lawr enwau a disgrifiadau o'r holl grwpiau newyddion sydd ar gael. Bydd angen i chi wneud hyn maes o law, felly mae nawr cystal ag unrhyw amser. Ond sylwch - mae'n cymryd amser MAITH i lwytho'r enwau i lawr - mae miloedd ar filoedd ohonynt. Gall gymryd hyd at hanner awr ac, mewn rhai achosion, ychydig yn fwy, i lwytho'r cyfan ohonynt i lawr.

Os cliciwch ar “No”, bydd raid i chi llwytho enwau a disgrifiadau'r grwpiau newyddion sydd ar gael i lawr yn hwyrach.


17) Mae cyfarwyddiadau llawn ar sut i ddefnyddio Outlook Express gyda gweinydd newyddion i'w gael yn help ar-lein Outlook Express. Dim ond clicio ar y botwm “Help” a dewis “Contents and Index”.

Y wefan hon (c) 2001 Cymru 1 Cyfyngedig. Cliciwch yma am wybodaeth hawlfraint, ymwrthodiad, a termau defnyddio safle We.