Hafan  Amdanom Ni  Cynhyrchion  Ychwanegol  Statws  Cymorth
   Hafan > Cymorth > Cymru 1 Aur > Cysylltu   
       
Aur
Cyflwyniad
Problemau Cysylltu
Problemau E-Bost
Problemau Wefan
Problemau Panel Rheoli
Cysylltu

Gallwch ddefnyddio cyfrif Aur gydag unrhyw ISP. Rydym yn awgrymu defnyddio ein gwasanaeth Cyswllt DI-DÂL ac, er cyfleuster i chi, rydym wedi cynnwys y tudalennau help Cywsllt sy'n ymwneud â phroblemau cysylltu isod:


Problemau Cysylltu â'r Rhyngrwyd

Yn yr adran hon fe welwch wybodaeth ddylai eich helpu i ddatrys unrhyw broblemau gyda chysylltu â'r Rhyngrwyd wrth ddefnyddio gwasanaeth Cymru 1 Cyswllt

Eich modem fydd yn achosi'r rhan fwyaf o broblemau cysylltu. Gan fod miloedd o wahanol fodelau o fodem, ni allwn drin pob un yma. Felly, cyn i chi wneud unrhyw beth arall, rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ddaeth gyda'ch modem i sicrhau ei fod yn gweithio'n gywir. Os yw yn gweithio, yna darllenwch ymlaen. Os yw'n ymddangos nad yw eich modem yn gweithio, dylech gysylltu â gwneuthurwr eich modem neu werthwr CP cyn mynd ymlaen.


Dewiswch o'r canlynol er mwyn i ni fynd â chi i'r wybodaeth fwyaf perthnasol mor fuan ag y bo modd:

Alla' i ddim cysylltu! Help!

Mae gennyf fodem 56k ond ni allaf fyth gysylltu ond ar gyflymder arafach


Problemau cyflymder modem

Pan yn defnyddio modem confensiynol ar linell ffôn gonfensiynol (yn hytrach na defnyddio addaswr ISDN gyda llinell ISDN), mae'r cyflymder uchaf a gewch wrth gysylltu yn dibynnu mwy na dim ar ansawdd eich llinell ffôn.

Y gorau yw ansawdd y llinell, cyflymaf fydd y gallu i gysylltu; serch hynny dylem ddatgan na welsom ERIOED fodem 56k yn cysylltu ar gyflymder cyflymach na 52k hyd yn oed gyda gwynt wrth gefn.

Mae ansawdd yn golygu pa mor dda mae'r llinell yn gallu cludo'r seiniau arbennig y bydd modemau yn eu defnyddio i anfon a derbyn data. Yn anffodus gall fod bron yn amhosibl i farnu ansawdd y llinell gyda'r glust yn unig - yn aml yr unig ffordd y gallwch ddweud os oes gennych linell ansawdd isel yw trwy'r ffaith na allwch gysylltu ar gyflymder uchel pan yn defnyddio modem. Yn waeth fyth, does yna ddim y gallwch ei wneud i wella pethau heblaw cwyno wrth eich darparwr gwasanaeth ffôn (BT fel arfer), ond anaml y bydd hyn yn gwneud unrhyw les.

Buddsoddi mewn llinell ISDN neu "Home" neu "Business Highway" yw'r eithriad i'r rheol gyffredinol hon - gan fod defnyddio addaswr ISDN yn lle modem gyda'r math hwn o linell yn rhoi gwarant dechnegol y byddwch yn cael cysylltiad cyflymder uchel (64k wrth ddefnyddio un sianel a 128k wrth ddefnyddio'r ddwy sianel ar unwaith) bob tro. Yn anffodus, mae llinellau ISDN a Highway yn costio mwy i'w gosod na llinellau ffôn arferol. Sylwch y gall problemau rhwydwaith ar y Rhyngrwyd, gweinyddion yn cael eu defnyddio'n drwm a materion eraill ddal i achosi tagfeydd perfformiad sy'n gallu arafu'r llif data rhyngoch chi a'r wefan yr ydych eisiau cysylltu â hi.

Mae buddsoddi mewn cysylltiad ADSL yn ffordd arall o wella eich cyflymder cysylltu. Eto gall hyn fod yn ddrud, ond mae'n darparu cysylltiad i'r Rhyngrwyd sy'n agored bob amser, ac yn un cyflym hefyd. Dylech fod yn ymwybodol fod llinellau ADSL yn dioddef o'rr hyn sy'n dwyn yr enw cymarebau cynnen. Mae hyn yn golygu os bydd llawer o gwsmeriaid ADSL yn eich ardal yn defnyddio'r gwasanaeth ar unwaith i lwytho llawer o ddata i lawr, bydd eich cyflymder cysylltu yn dioddef yn sylweddol. Ac eto gall ansawdd y llinell ddod i'r amlwg ar linellau ansawdd gwael, yn enwedig os byddwch yn byw ymhell o'ch cyfnewidfa leol, gall y cyflymder uchaf y gallwch anfon neu dderbyn data fod yn llai na'r cyflymder uchaf y gall eich cysylltiad ADSL ei ddarparu mewn egwyddor.




Problemau Cysylltu Cyffredinol

Pan fyddwch yn ymuno â gwasanaeth Cymru 1 Cyswllt am y tro cyntaf, byddwch yn gallu dewis cael eich cyfrifiadur wedi ei ffurfweddu (configure) yn awtomatig trwy glicio ar eicon ar eich sgrîn. Fel arall, gallwch ddewis rhoi'r wybodaeth ffurfweddu briodol i mewn eich hun. Os byddwch yn dewis ffurfweddu'n awtomatig, neu wedi rhoi'r wybodaeth i mewn yn gywir eich hun, dylech allu cysylltu â'n gwasanaeth heb unrhyw broblemau. Ond nid yw pethau bob amser yn mynd yn esmwyth! Felly, i'ch helpu i weld achos y broblem, mae'r dudalen hon yn dangos i chi sut i edrych ar eich gosodiadau deialu i gysylltu â Windows o dan Windows 95, 98, Me, 2000 a XP.


Ond cyn y gallwch chi wneud hyn bydd angen i chi wybod dau beth:
Eich enw defnyddiwr deialu a'ch cyfrinair deialu.

Chi ddewisodd y cyfrinair a'r enw defnyddiwr wrth ymuno â'r gwasanaeth.

Mae eich cyfrinair deialu yr un fath â'r cyfrinair a wnaethoch chi ddewis.

Mae eich enw defnyddiwr deialu yr un fath â'r enw defnyddiwr a wnaethoch chi ddewis, ond gyda @cymru1.net ychwanegol ar y diwedd. Felly, os wnaethoch chi ddewis dafyddjones fel eich enw defnyddiwr, eich enw defnyddiwr deialu fydd dafyddjones@cymru1.net.


Iawn. Nawr, ymlaen i edrych ar y gosodiadau yna. Gan fod pob fersiwn o Windows yn gwneud pethau ychydig yn wahanol, mae trefn wahanol ar gyfer pob un. Felly, y cam cyntaf yw dewis eich system o'r rhestr ganlynol. Pan wnewch hynny bydd eich porwr yn neidio i'r rhan o'r dudalen sy'n sôn am y system ar eich CP.

Windows 95 neu 98 (gan gynnwys Windows 98SE / "Second Edition")

Windows Me

Windows XP

Windows 2000

Windows MEIf you still can't connect, please contact the Cymru 1 technical support department.

Os oes gennych Windows Me ar eich CP, mae angen i chi glicio ar y botwm Start, yna dewiswch Settings, yna Dial-up Networking.

Dylai gwneud hynny ddod â ffenestr newydd ar eich sgrîn yn cynnwys eich gosodiadau deialu rhwydwaith. Dylai fod o leiaf ddau eicon yn y ffenestr, un yn dweud “Make a New Connection”, ac un yn dweud Cymru 1.

Defnyddiwch fotwm DE y llygoden i glicio ar eicon Cymru 1, a dewis “Properties” o'r neidlen sy'n ymddangos. Bydd hyn yn gwneud i ffenestr newydd ymddangos ar eich sgrîn, yn dangos y rhifau ffôn y dylai Windows ddefnyddio i gysylltu â gwasanaeth Cymru 1. Dylai “Area code” ddweud 0844. Dylai “Telephone number” ddweud 5351740 a dylai “Country Code” ddweud “United Kingdom (44)”. Dylai fod tic yn y blwch wrth ymyl y geiriau “Use area code and Dialing Properties”.


O dan hyn i gyd mae'n dweud “Connect Using”. Dylai'r enw y bydd Windows yn galw eich modem neu gerdyn ISDN ymddangos o dan hyn (e.e. rhywbeth fel “Standard 56K modem”, “Standard Modem”, SupraExpress, Eicon Diva channel 0 neu debyg). Os nad yw, cliciwch ar y triongl bach i'r dde o enw'r modem - bydd pob modem sydd wedi ei ffurfweddu ar eich CP yn cael ei restru wedyn. Dewiswch y modem cywir.


Nawr cliciwch ar y tab “Networking” - mae hwnnw ar dop y ffenestr, rhwng y tab “General” a'r tab “Security”. Dylai “Type of Dial-up Server” ddweud “PPP, Internet, Windows 2000/NT, Windows ME” ac, yn ôl pob tebyg, bydd yn “llwyd” fel na allwch ei newid. O dan “Advanced Options”, dylai fod tic ar “Enable software compression”, ond nid ar “Record a log file for this connection”. O dan “Allowed network protocols”, yr unig flwch ddylai fod â thic ynddo yw “TCP/IP”.


Cliciwch ar y botwm “TCP/IP Settings”. Dylai fod smotyn yn y “Server Assigned IP address”, ac nid yn y “Specify an IP address”. Yn yr un modd, dylai fod smotyn yn “Server Assigned name server address”, ac nid yn “Specify name server addresses”.

Dylai fod tic yn “Use IP header compression” a “Use default gateway on remote network”. Dylai fod pob man arall yn y ffenestr hon lle gallai testun fynd fod yn llwyd.


Cliciwch ar y botwm OK.


Nawr cliciwch ar y tab “Security” (rhwng “Networking” a “Scripting”). Yn “Authentication”, dylai'r enw defnyddiwr a welwch fod yr un fath â'ch enw defnyddiwr deialu yn ôl y disgrifiad uchod (er enghraifft, dafyddjones@cymru1.net). Dylai'r Cyfrinair ddangos rhes o sêr (*). Mae'r sêr yma'n cuddio eich cyfrinair, ond mae pob * yn sefyll am lythyren neu rif yn eich cyfrinair. Os ydych chi am, gallwch ddefnyddio eich llygoden i amlygu'r holl sêr, pwyso'r allwedd “Delete” ar eich bysellfwrdd, yna deipio eich cyfrinair eto.

Ni ddylai fod dim byd yn “Domain”.


Os ydych am i'ch cyfrifiadur gysylltu â Cymru 1 yn awtomatig heb ofyn i chi am gyfrinair bob tro wrth gysylltu â'r Rhyngrwyd (e.e. os byddwch yn rhedeg Internet Explorer), yna bydd rhoi tic yn y blwch “Connect automatically” yn dweud wrth eich cyfrifiadur am wneud hynny. Heb roi tic yn y blwch yma, bydd raid i'ch cyfrifiadur gael eich caniatâd cyn cysylltu â'r Rhyngrwyd, trwy glicio ar y botwm “CONNECT” ar y ffenestr deialu rhwydwaith sy'n ymddangos pan fydd rhaglen eisiau cysylltu â'r Rhyngrwyd.


Dylai pob blwch yn “Advanced security options” fod yn glir (heb ei dicio).


Yn olaf, cliciwch ar y tab “Dialing”, sydd ar dop y ffenestr, wrth ymyl “Multilink”.

Dylai fod tic yn y blwch “This is the default Internet connection”. O'r tri dewis isod, bydd angen i'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr ddewis “Always dial my default connection”.

Peidiwch â phoeni am y dewisiadau eraill yn y ffenestr hon o ran cysylltu â Cymru 1. Gallant fod yn ddefnyddiol iawn, serch hynny, gan y gallant ddatgysylltu eich cyfrifiadur o'r Rhyngrwyd yn awtomatig os byddwch heb ei ddefnyddio am ychydig - cyfleus iawn os byddwch wedi anghofio bod eich cyfrifiadur wedi ei gysylltu.

Nawr cliciwch ar OK.

Mae hyn yn mynd â chi'n ôl i'r brif ffenestr “Dial-up Networking”. Dwbl-gliciwch ar eicon Cymru 1. Dylai eich cysylltu â'r Rhyngrwyd pan wnewch hynny.

Os byddwch yn dal i fethu cysylltu, cofiwch gael gair gydag adran gefnogaeth dtechnegol Cymru 1. Cliciwch yma i weld sut i wneud hynnu.

Windows 95/98

Os oes gennych Windows 95 neu 98 (gan gynnwys Windows 98SE/Ail Argraffiad), mae angen i chi ddwbl-glicio ar eicon “My Computer” ar eich bwrdd gwaith Windows, yna dwbl-gliciwch ar eicon “Dial-up Networking” a welwch yn y ffenestr sy'n ymddangos.

Mae hyn yn dod â ffenestr newydd i'ch sgrîn yn cynnwys eich gosodiadau deialu rhwydweithio. Dylai fod o leiaf ddau eicon yn y ffenestr hon, un yn dweud “Make a New Connection”, ac un yn dweud “Cymru 1”.

Defnyddiwch fotwm DE y llygoden i glicio ar eicon Cymru 1, a dewis “Properties” o'r neidlen sy'n ymddangos. Bydd hyn yn gwneud i ffenestr newydd ddod ar eich sgrîn, yn dangos y rhifau ffôn y dylai Windows ddefnyddio i gysylltu â'r gwasanaeth Cymru 1. Dylai “Area code” ddweud 0844. Dylai “Telephone number” ddweud 5351740 a dylai “Country Code” ddweud “United Kingdom (44)”. Dylai fod tic yn y blwch wrth ymyl y geiriau “Use area code and Dialing Properties”.

O dan hyn i gyd mae'n dweud “Connect Using”. Dylai'r enw y bydd Windows yn galw eich modem neu gerdyn ISDN ymddangos o dan hyn (e.e. rhywbeth fel “Standard 56K modem”, “Standard Modem”, SupraExpress, Eicon Diva channel 0 neu debyg). Os nad yw, cliciwch ar y triongl bach i'r dde o enw'r modem - bydd pob modem sydd wedi ei ffurfweddu ar eich CP yn cael ei restru wedyn. Dewiswch y modem cywir.

Nawr cliciwch ar y tab sy'n dweud “Server Types” - mae ar dop y ffenestr, rhwng y tab “General” a'r tab “Scripting”. Dylai “Type of Dial-up Server” ddweud “PPP, Internet, Windows 2000/NT, Windows 98” (neu 95) ac, yn ôl pob tebyg, bydd yn “llwyd” fel na allwch ei newid. O dan “Advanced Options”, dylai fod tic ar “Enable software compression”, ond dim tic arall. O dan “Allowed network protocols”, yr unig flwch ddylai fod â thic ynddo yw “TCP/IP”.

Cliciwch ar fotwm “TCP/IP Settings”. Dylai fod smotyn yn “Server Assigned IP address”, ac nid yn “Specify an IP address”. Yn yr un modd, dylai fod smotyn yn “Server Assigned name server address”, ac nid yn “Specify name server addresses”.

Dylai fod tic yn “Use IP header compression” a “Use default gateway on remote network”. Dylai fod pob man arall yn y ffenestr hon lle gallai testun fynd fod yn llwyd.

Cliciwch ar y botwm OK i gael gwared ar y ffenestr “TCP/IP Settings”, a chliciwch ar OK eto yn y ffenestr arall (yr un gyda'r botwm TCP/IP Settings a gliciwyd gennych yn gynharach).

Dylai'r ffenestr “Windows Dial-up Networking” gyda'r eiconau Cymru 1 a “Make New Connection” ddod i'r golwg eto.

Nawr dwbl-gliciwch ar eicon Cymru 1. Dylai ffenestr “Connect To” ymddangos. Yn y blwch “User name”, dylech weld eich enw defnyddiwr deialu Cymru 1, fel yr eglurwyd uchod (e.e. dafyddjones@cymru1.net). Dylai'r blwch “Password” ddangos rhes o sêr (*). Mae'r sêr yma'n cuddio eich cyfrinair, ond mae pob * yn cynrychioli un llythyren neu rif yn eich cyfrinair. Os ydych chi am, gallwch ddefnyddio eich llygoden i amlygu yr holl sêr, pwyso'r allwedd “Delete” ar eich bysellfwrdd, yna deipio eich cyfrinair eto. Os yw'r blwch yn wag, teipiwch eich cyfrinair. Sut bynnag, byddwch yn gweld * yn ymddangos am bob llythyren neu rif yn eich cyfrinair. Cliciwch y blwch “Save password” os ydych am i Windows gofio eich cyfrinair deialu a'i ddefnyddio'n awtomatig bob amser y byddwch yn cysylltu â Cymru 1 (Sylwch - nid yw Windows bob amser yn cadw eich cyfrinair os yw'n methu cysylltu, felly bydd raid i chi ei deipio nes cewch eich cysylltu o'r diwedd).

Yn “Phone Number” dylech weld rhif deialu Cymru 1 (0844 535 1740). Peidiwch â phoeni os oes lle rhwng rhai o'r rhifau neu beidio.

Fel arfer nid yw'n bwysig beth sydd yn y blwch “Dialing from”. Gan amlaf bydd yn dweud “New Location”.

Erbyn hyn dylech fod yn barod i roi cynnig ar gysylltu eto. Cliciwch ar y botwm “Connect” a gwrando - os byddwch yn clywed eich modem yn codi'r ffôn ac yn deialu, yna dylai popeth fod yn iawn.

Os byddwch yn dal i fethu cysylltu, cofiwch gysylltu ag adran gefnogaeth dechnegol Cymru 1. Cliciwch yma i weld syt i wneud hynnu.





Windows XP

Os oes gennych Windows XP, mae angen i chi glicio ar y botwm “Start”, yna dewis “My Network Places”. Yn y ffenestr sy'n ymddangos, cliciwch ar “View network connections” yn rhan “Network Tasks” o'r ffenestr. Dylai'r ffenestr newid i ddangos “Dial-up connections” yn rhan uchaf y ffenestr (ac efallai “LAN or High-Speed Internet” o dan hynny.

Yn y rhan “Dial-up”, dylech weld eicon Cymru 1.

Defnyddiwch fotwm DE y llygoden i glicio ar eicon Cymru 1. Os gwelwch “Set as Default Connection” yn y ddewislen hon, dewiswch hwn i osod Cymru 1 fel eich cyswllt deialu diofyn. Os mai Cymru 1 yw eich cyswllt deialu diofyn eisoes, byddwch yn gweld “Cancel as default connection” ar y ddewislen yn lle hynny. PEIDIWCH Â dewis hwn.

Nawr Defnyddiwch fotwm DE y llygoden i glicio ar eicon Cymru 1 eto, ond y tro yma dewiswch “Properties” o'r neidlen sy'n ymddangos.

Bydd hyn yn gwneud i ffenestr newydd ymddangos ar eich sgrîn, yn dangos y rhifau ffôn y dylai Windows ddefnyddio i gysylltu â gwasanaeth Cymru 1, a pha ddyfais (modem) ddylai ei ddefnyddio.


OS YDI'R COD ARDAL A'R COD GWLAD/RHANBARTH I GYD YN LLWYD NEU HEB DDIM YNDDYNT, a'r blwch ticio “Use Dialing Rules” HEB ei dicio, cyn belled â bod rhif ffôn llawn gwasanaeth Cymru 1 yn cael ei restru yn yr adran Rhif Ffôn (0844 5351740), mae popeth yn iawn.

Os ydi'r cod ardal a'r cod gwlad/rhanbarth heb fod yn wag/llwyd, a'r blwch ticio “Use Dialing Rules” WEDI ei dicio, yna dylai'r “Area code” ddweud 0844, dylai “Phone number” ddweud 5351740 a dylai “Country/Region” ddweud “United Kingdom (44)” (neu debyg).

Uwch ben hyn i gyd mae rhan yn dweud “Connect Using”. Dylai'r enw y bydd Windows yn galw eich modem neu gerdyn ISDN ymddangos yma (e.e. rhywbeth fel “Standard 56K modem”, “Standard Modem”, SupraExpress, Eicon Diva channel 0 neu debyg) gyda thic wrth ei ymyl. Os oes tic wrth ymyl y modem anghywir, dim ond rhoi tic wrth ymyl y modem cywir sydd angen a DILEU y tic wrth ymyl y modem anghywir.


Nawr cliciwch ar y tab “Networking” - fe welwch o ar ben y ffenestr, rhwng y tab “Security” a'r tab “Advanced”. Dylai “Type of Dial-up Server I am calling” ddweud “PPP, Windows 95/98//NT4/2000, Internet”. O dan “This connection uses the following items”, dylech weld “Internet Protocol (TCP/IP)”. Dylai fod tic ar hwn. Efallai y bydd eitemau eraill yno hefyd, rhai gyda thiciau a rhai heb. Mae'n well gadael llonydd i'r rhain ar hyn o bryd.

Nawr amlygwch y llinell “Internet Protocol (TCP/IP)” a chliciwch ar y botwm “Properties”. Dylai ffenestr newydd ymddangos. Dylai fod smotyn yn y llinell “Obtain IP address automatically”, ac nid yn “Use the following IP address”. Hefyd, dylai fod smotyn yn y llinell “Obtain DNS server address automatically”, ac nid yn “Use the following DNS server addresses”.

Cliciwch ar y botwm OK i gael gwared ar y ffenestr hon, ac yna ar y botwm OK ar yr hen Ffenestr (Cymru 1 Properties) i gael gwared ar honno hefyd.

Dylech nawr fod yn ôl yn y ffenestr “Network Connections”. Dwbl-gliciwch ar eicon Cymru 1. Dylai ffenestr newydd o'r enw Cymru 1 ymddangos.


Yn y rhan “User name” fe welwch eich enw defnyddiwr deialu Cymru 1 (e.e. dafyddjones@cymru1.net) yn ôl y disgrifiad uchod. Dylai'r blwch “Password” ddangos rhes o smotiau du. Mae'r smotiau hyn yn cuddio eich cyfrinair, ond mae pob smotyn yn un llythyren neu rif yn eich cyfrinair. Os ydych chi am, gallwch ddefnyddio eich llygoden i amlygu'r holl smotiau, pwyso'r allwedd “Delete” ar eich bysellfwrdd, yna deipio eich cyfrinair eto. Os nad oes cyfrinair/smotiau yn cael eu dangos, teipiwch eich cyfrinair.

Yn y rhan “Dial” tua'r gwaelod, dylech weld rhif ffôn deialu Cymru 1 (0844 5351740).

Cliciwch ar “Dial” i ddeialu'r cysylltiad. Os yw popeth yn iawn, dylech gael eich cysylltu â Cymru 1. Os bydd Windows yn dangos neges gwall yn ymwneud â phroblem cyfathrebu gyda'ch modem, gall y broblem fod gyda ffurfweddu eich modem. Dylech gysylltu â gwneuthurwr eich modem neu werthwr CP am gymorth. Neu, os bydd popeth arall yn methu, gallwch gysylltu ag adran gefnogaeth dechnegol Cymru 1. Cliciwch yma i weld sut i wneud hyn.

Windows 2000

Os yw Windows 2000 ar eich peiriant, mae angen i chi glicio'r botwm “Start”, yna dewis “Settings”, yna “Dial-up Networking”.

Bydd hynny'n dod â ffenestr newydd ar eich sgrîn yn cynnwys eich gosodiadau deialu a rhwydweithio eraill. Dylai fod o leiaf ddau eicon yn y ffenestr hon, un yn dweud “Make New Connection”, ac un yn dweud Cymru 1.


Defnyddiwch fotwm DE y llygoden i glicio ar eicon Cymru 1, a dewis “Properties” o'r neidlen sy'n ymddangos. Bydd hyn yn gwneud i ffenestr newydd ymddangos ar eich sgrîn, yn dangos y rhifau ffôn y dylai Windows ddefnyddio i gysylltu â gwasanaeth Cymru 1, a pha ddyfais (modem) ddylai ddefnyddio.

OS YDI'R COD ARDAL A'R COD GWLAD/RHANBARTH I GYD YN LLWYD NEU HEB DDIM YNDDYNT, a'r blwch ticio “Use Dialing Rules” HEB ei dicio, cyn belled â bod rhif ffôn llawn gwasanaeth Cymru 1 yn cael ei restru yn yr adran Rhif Ffôn (0844 5351740), mae popeth yn iawn.

Os ydi'r cod ardal a'r cod gwlad/rhanbarth heb fod yn wag/llwyd, a'r blwch ticio “Use Dialing Rules” WEDI ei dicio, yna dylai'r “Area code” ddweud 0844, dylai “Phone number” ddweud 5351740 a dylai “Country/Region” ddweud “United Kingdom (44)” (neu o leiaf rywbeth yn debyg).

Uwch ben hyn i gyd mae rhan yn dweud “Connect Using”. Dylai'r enw y bydd Windows yn galw eich modem neu gerdyn ISDN ymddangos yma (e.e. rhywbeth fel “Standard 56K modem”, “Standard Modem”, SupraExpress, Eicon Diva channel 0 neu debyg) gyda thic wrth ei ymyl. Os oes tic wrth ymyl y modem anghywir, dim ond rhoi tic wrth ymyl y modem cywir sydd angen a DILEU y tic wrth ymyl y modem anghywir.

Nawr cliciwch ar y tab “Networking” - fe welwch o ar ben y ffenestr, rhwng y tab “Secutiry” a'r tab “Advanced”. Dylai “Type of Dial-up Server I am calling” ddweud “PPP, Windows 95/98//NT4/2000, Internet”. O dan “This connection uses the following items”, dylech weld “Internet Protocol (TCP/IP)”. Dylai fod tic ar hwn. Efallai y bydd eitemau eraill yno hefyd, rhai gyda thiciau a rhai heb. Mae'n well gadael llonydd i'r rhain ar hyn o bryd.

Nawr amlygwch y llinell “Internet Protocol (TCP/IP)” a chliciwch ar y botwm “Properties”. Dylai ffenestr newydd ymddangos. Dylai fod smotyn yn y llinell “Obtain IP address automatically”, ac nid yn “Use the following IP address”. Hefyd, dylai fod smotyn yn y llinell “Obtain DNS server address automatically”, ac nid yn “Use the following DNS server addresses”.

Cliciwch ar y botwm OK i gau'r ffenestr hon, ac yna ar y botwm OK ar y ffenestr arall (Cymru 1 Properties) i gau honno hefyd.

Dylech nawr fod yn ôl yn y ffenestr “Network and Dial-up Connections”. Dwbl-gliciwch ar eicon Cymru 1. Dylai ffenestr newydd o'r enw Connect Cymru 1 ymddangos.

Yn y rhan “User name” fe welwch eich enw defnyddiwr deialu Cymru 1 (e.e. dafyddjones@cymru1.net) yn ôl y disgrifiad uchod. Dylai'r blwch “Password” ddangos rhes o sêr (*). Mae'r sêr yma'n cuddio eich cyfrinair, ond mae pob * yn un llythyren neu rif yn eich cyfrinair. Os ydych chi am, gallwch ddefnyddio eich llygoden i amlygu yr holl sêr, pwyso'r allwedd “Delete” ar eich bysellfwrdd, yna deipio eich cyfrinair eto. Os nad oes sêr yn cael eu dangos, teipiwch eich cyfrinair.

Cliciwch ar “Dial-up” i ddeialu'r cysylltiad. Os yw popeth yn iawn, dylech gael eich cysylltu â Cymru 1. Os bydd Windows yn dangos neges gwall yn ymwneud â phroblem cyfathrebu gyda'ch modem, gall y broblem fod gyda ffurfweddu eich modem. Dylech gysylltu â gwneuthurwr eich modem neu werthwr CP am help. Neu, os bydd popeth arall yn methu, gallwch gysylltu ag adran gefnogaeth dechnegol Cymru 1. Cliciwch yma i weld sut i wneud hyn.

Y wefan hon (c) 2001 Cymru 1 Cyfyngedig. Cliciwch yma am wybodaeth hawlfraint, ymwrthodiad, a termau defnyddio safle We.