Yn yr adran hon rydym yn dweud wrthych yn union sut i ffurfweddu Outlook neu Outlook Express er mwyn caniatáu i chi anfon a derbyn e-bost yn llwyddiannus trwy ddefnyddio eich cyfrif Arian.
Yn yr enghreifftiau sy'n dilyn, byddwn yn cymryd yn ganiataol eich bod wedi sefydlu cyfrif e-bost trwy eich panel rheoli fel a ganlyn:
Enw'r Cyfrif e-bost yw fyenw
Y cyfrinair e-bost yw fynghyfrinair
Byddwn hefyd yn cymryd yn ganiataol mai
Yr enw pau rydych yn ei ddefnyddio gyda'ch cyfrif Arian yw fymhau.com
Y byddwch yn defnyddio'r gwasanaeth Cymru 1 Cyswllt i gael mynediad i'r Rhyngrwyd, felly eich gweinydd SMTP fydd smtp.cymru1.net
Mae sut y byddwch yn teipio'r manylion angenrheidiol i'r rhaglen yn dibynnu ar y fersiwn o Outlook neu Outlook Express sydd gennych.
Outlook Express (5.x neu 6.x)
Outlook (yn Office 2000 a chynharach)
Outlook (yn Office XP)
Outlook Express 5 neu 6
Lansiwch Outlook. Cliciwch ar y ddewislen gwympo “Tools”, a dewis “Accounts” o'r rhestr hon.
Bydd ffenestr newydd o'r enw “Internet Accounts” yn ymddangos, gydag thabiau ar draws y top (“All”, “Mail” ac ati). Cliciwch ar y tab “Mail”.
I greu cyfrif newydd, gwnewch y canlynol:
1) Cliciwch ar y botwm “Add” a dewis “Mail” o'r rhestr o eitemau sy'n ymddangos.
2) Bydd hyn yn lansio “Wizard” fydd yn gofyn rhai cwestiynau ac yn sefydlu eich system e-bost yn awtomatig.
3) Cwestiwn cyntaf y “Wizard” fydd eich enw. Rhowch eich enw, fel y byddwch am iddo ymddangos yn eich e-bost.
4) Cliciwch ar y botwm “Next”
5) Yn y sgrîn nesaf, gwnewch yn siŵr fod “I already have an e-mail address that I'd like to use” wedi ei ddewis. Yn y llinell “Email address”, teipiwch eich cyfeiriad e-bost (e.e. fyenw@fymhau.com)
6) Cliciwch ar y botwm “Next”
7) Yn y sgrîn nesaf, gwnewch yn siŵr fod “POP3” wedi ei ddewis yn y llinell “My Incoming mail server is”. Os nad yw, newidiwch o.
8) Yn y llinell “Incoming mail (POP3, IMAP or HTTP) server”, teipiwch pop3 ac wedyn eich enw pau (e.e. pop3.fymhau.com)
9) Yn y llinell “Outgoing mail (SMTP) server”, teipiwch enw gweinydd SMTP Cymru 1, sef smtp.cymru1.net (Heblaw eich bod yn defnyddio ISP arall i gysylltu â'r Rhyngrwyd ac nid Cymru 1. Os ydych, dylech deipio enw gweinydd SMTP yr ISP ac nid gweinydd SMTP Cymru 1)
10) Cliciwch ar y botwm “Next”
11) Yn y sgrîn nesaf, teipiwch enw eich cyfrif e-bost yn y llinell “Account name” (e.e. fyenw)
12) Yn y llinell “Password”, teipiwch eich cyfrinair ebost (e.e. fynghyfrinair). Cliciwch ar “Remember Password” os ydych eisiau i Outlook gofio eich cyfrinair o hyn ymlaen. Mae hyn yn syniad da oni bai fod pobl eraill yn defnyddio eich cyfrifiadur ac nad ydych eisiau iddynt ddarllen eich e-bost.
13) Gwnewch yn siŵr fod “Log on using Secure Password Authentication” heb ei dicio.
14) Cliciwch ar y botwm “Next”
15) Rydych bron â gorffen. Bydd y sgrîn nesaf yn dweud wrthych eich bod wedi gorffen sefydlu eich cyfrif. Nawr cliciwch ar y botwm “Finish”. Bydd cyfrif newydd wedi cael ei greu ar eich cyfer o'r enw pop3.cymru1.net. Byddwch yn ei weld yn cael ei restru'n y tab “Mail” yn ffenestr “Internet Accounts”.
16) I gau'r ffenestr hon, cliciwch ar y botwm “Close”.
17) Cliciwch ar y botwm mawr “Send/Recv” yn rhes botymau Outlook Express ar dop y sgrîn i anfon a derbyn eich e-bost. Mae mwy o help ar ddefnyddio Outlook Express i'w weld trwy ddefnyddio dewislen Help Outlook Express, yn union i'r dde o'r ddewislen “Messages” ar dop prif ffenestr Outlook Express.
Microsoft Outlook (yn Office 2000 a chynharach)
Lansiwch Outlook. Cliciwch ar y ddewislen gwympo “Tools”, a dewis “Accounts” o'r rhestr hon.
Bydd ffenestr newydd o'r enw “Internet Accounts” yn ymddangos, gydag thabiau ar draws y top (“All”, “Mail” ac ati). Cliciwch ar y tab “Mail”.
I greu cyfrif newydd, gwnewch y canlynol:
1) Cliciwch ar y botwm “Add” a dewis “Mail” o'r rhestr o eitemau sy'n ymddangos.
2) Bydd hyn yn lansio “Wizard” fydd yn gofyn rhai cwestiynau ac yn sefydlu eich system e-bost yn awtomatig.
3) Cwestiwn cyntaf y “Wizard” fydd am eich enw “Display”. Dim ond dweud eich enw wrtho sydd raid, fel yr ydych am iddo ymddangos yn eich e-bost.
4) Cliciwch ar y botwm “Next”
5) Yn y sgrîn nesaf mae angen i chi ddweud eich cyfeiriad e-bost wrth Outlook. Felly yn y llinell “Email address” teipiwch eich cyfeiriad e-bost (e.e. fyenw@fymhau.com)
6) Cliciwch ar y botwm “Next”
7) Yn y sgrîn nesaf, gwnewch yn siŵr fod POP3 wedi ei ddewis yn y llinell “My Incoming mail server is”. Os nad yw, newidiwch o.
8) Yn y llinell “Incoming mail (POP3, IMAP or HTTP) server”, teipiwch pop3 ac wedyn eich enw pau (e.e. pop3.fymhau.com)
9) Yn y llinell “Outgoing mail (SMTP) server”, teipiwch enw gweinydd SMTP Cymru 1, sef smtp.cymru1.net (Heblaw eich bod yn defnyddio ISP arall i gysylltu â'r Rhyngrwyd ac nid Cymru 1. Os ydych, dylech deipio enw gweinydd SMTP yr ISP ac nid gweinydd SMTP Cymru 1)
10) Cliciwch ar y botwm “Next”
11) Yn y sgrîn nesaf, teipiwch eich enw cyfrif e-bost yn y llinell “Account name” (e.e. fyenw)
12) Yn y llinell “Password”, teipiwch eich cyfrinair e-bost. Cliciwch ar “Remember Password” os ydych eisiau i Outlook gofio eich cyfrinair o hyn ymlaen. Mae hyn yn syniad da oni bai fod pobl eraill yn defnyddio eich cyfrifiadur ac nad ydych eisiau iddynt ddarllen eich e-bost.
13) Gwnewch yn siŵr fod “Log on using Secure Password Authentication” heb ei dicio.
14) Cliciwch ar y botwm “Next”
15) Rydych bron â gorffen. Os bydd y “Wizard” nawr eisiau gwybod sut fyddwch yn cysylltu â'r Rhyngrwyd, dywedwch wrtho eich bod eisiau sefydlu cysylltiad eich hun (y dewis olaf).
16) Cliciwch ar y botwm “Next”
17) Bydd Outlook yn dweud wrthych eich bod wedi rhoi'r holl fanylion yn llwyddiannus a'ch bod yn barod i fynd.
18) Cliciwch ar y botwm “Finish”.
19) Cliciwch ar y botwm “Close” i gau'r ffenestr cyfrifon e-bost.
20) Cliciwch ar y botwm mawr “Send/Recv” yn y bar botymau Outlook tua thop y sgrîn i anfon a derbyn eich e-bost. Mae mwy o help ar ddefnyddio Outlook i'w weld trwy ddefnyddio dewislen “Help” Outlook, yn union i'r dde o ddewislen “Messages” ar ben prif ffenestr Outlook Express.
Microsoft Outlook XP (yn Office XP [2002])
Mae gan y fersiwn o Outlook yn Microsoft Office XP ryngwyneb defnyddiwr ychydig yn wahanol i'r fersiwn yn Office 2000 a chynharach.
I ddarganfod os yw'r ffurfweddu yn gywir, rhedwch Outlook, cliciwch ar ddewislen “Tools”, a dewiswch “E-Mail accounts” o'r rhestr.
Y cam cyntaf yw gweld os oes sôn am eich E-bost Cymru 1 presennol. I wneud hyn, dewiswch “View or Change existing Email accounts”, a chliciwch ar “Next”.
1) Cliciwch ar y botwm “Add” o'r ffenestr restru “E-mail Accounts” (neu dewiswch “Add a new e-mail account” o'r ffenestr “E-mail Accounts” gyntaf un).
2) O'r ffenestr restru “Server Type”, dewiswch “POP3” a chliciwch ar y botwm “Next”.
3) O dan y pennawd “User Information”, teipiwch eich enw neu sefydliad yn y llinell “Your Name”. Dyma'r union wybodaeth fydd yn cael ei anfon gyda'ch e-bost - nid yw'n bwysig beth yw cyn belled â'ch bod yn hapus i bobl eraill ei weld ar ben eich holl e-bost.
4) Yn y llinell “E-mail Address”, teipiwch eich cyfeiriad e-bost (e.e. fyenw@fymhau.com).
5) Yn y llinell “User Name”, teipiwch eich enw cyfrif e-bost eto (e.e. fyenw).
6) Yn y llinell “Password”, teipiwch eich cyfrinair. Pan deipiwch eich cyfrinair yn y llinell hon, byddwch yn gweld “*” yn ymddangos yn lle pob llythyren yn eich cyfrinair - mae hyn er diogelwch.
7) Gwnewch yn siŵr fod tic yn y blwch “Remember password” yn lle gorfod teipio eich cyfrinair bob tro y byddwch yn casglu eich e-bost. Fodd bynnag, os bydd pobl eraill yn defnyddio eich cyfrifiadur ac na fyddwch eisiau iddynt gasglu eich e bost, peidiwch â rhoi tic yma.
8) Gwnewch yn siŵr nad oes tic yn y blwch “Log on using Secure Password Authentication”.
9) Yn y llinell “Incoming mail server (POP3)”, teipiwch pop3 ac wedyn eich enw pau (e.e. pop3.fymhau.com)
10) Yn y llinell “Outgoing mail server (SMTP)”, teipiwch “smtp.cymru1.net” (heb y dyfyniadau). Fodd bynnag, os ydych yn defnyddio ISP arall ac nid Cymru 1 i gysylltu â'r Rhyngrwyd, rhowch enw gweinydd SMTP yr ISP arall yma yn ei le.
11) Ar hyn o bryd dylai popeth fod yn gweithio'n iawn. Os cliciwch ar y botwm “Test Account Settings”, bydd Outlook XP yn sicrhau fod popeth yn gweithio'n iawn, a bydd yn dweud wrthych beth sydd heb fod yn gweithio - gall hyn eich helpu i ddatrys problemau ychwanegol.
|