Ystyr FTP yw File Transfer Protocol, sef y protocol y bydd pob gwefan yn ei ddefnyddio i ganiatáu i gwsmeriaid lwytho eu ffeiliau i fyny (anfon) i'w lle ar y We. Rhaglen yw cleient FTP sy'n deall y protocol hwn ac mae wedi ei dylunio'n benodol at lwytho i fyny (anfon) a hefyd at lwytho i lawr (derbyn) ffeiliau o Wefannau.
Rhai enghreifftiau o gleientiaid FTP yw CuteFTP, WS-FTP a FTP Voyager. Cliciwch ar enw'r rhaglen i fynd i Wefan cyhoeddwr y rhaglen. Gallwch hefyd weld mwy o raglenni FTP trwy ymweld â www.download.com a chwilio am FTP. SYLWCH: Mae gan rai golygyddion HTML gyfleusterau FTP eu hunain. Os felly y mae gyda'ch golygydd HTML, ni fydd angen i chi lwytho cleient FTP i lawr ar wahân.
Dechrau arni
Er mwyn cysylltu gyda'ch gwefan, bydd angen i chi ddweud wrth eich rhaglen gleient FTP y tri pheth canlynol:
1) Enw / cyfeiriad y gweinydd FTP
2) Eich enw defnyddiwr / enw cyfrif FTP
3) Eich cyfrinair FTP
Mae'r enw / cyfeiriad y gweinydd FTP a ddylech ddefnyddio yn dibynnu ar enw eich cyfrif pau Aur. Os mai eich enw pau yw fymhau.com, yna enw / cyfeiriad y gweinydd FTP fyddai fymhau.com
O ran Perchnogion Pau, yr enw defnyddiwr a chyfrinair FTP yw'r rhai sy'n cael eu dangos yn yr adran “Hosting” ym Mhanel Rheoli eich pau. Fel arfer bydd Gweinyddwr Cymru 1 wedi gosod enw defnyddiwr a chyfrinair FTP i chi, serch hynny gallwch newid y cyfrinair os byddwch angen.
O ran defnyddwyr y We, mae'r enw defnyddiwr FTP yr un fath â'r enw defnyddiwr a glustnodwyd i ddefnyddiwr y We yn defnyddio eich panel rheoli Pau. Felly, os mai dafydd yw enw cyfrif defnyddiwr y We, teipiwch dafydd fel yr enw defnyddiwr FTP yn y cleient FTP. Yn yr un modd, y cyfrinair FTP yw'r cyfrinair a glustnodwyd i gyfrif Defnyddiwr y We. Er enghraifft, os oes gan ddefnyddiwr y We dafydd y cyfrinair fynghyfrinair, byddai'n teipio fynghyfrinair fel y cyfrinair FTP
Defnyddio eich cleient FTP i gysylltu â'ch Gwefan
Wedi rhoi'r wybodaeth gywir yn eich cleient FTP, gofynnwch iddo eich cysylltu â'ch Gwefan. Mae cleientiaid FTP yn amrywio o raglen i raglen ond, fel arfer, mae hyn yn cael ei wneud trwy glicio ar y botwm “Connect” neu ddewis “Connect” o'r ddewislen.
Defnyddwyr y We
Pan fydd y cleient FTP yn cysylltu â phau'r cyfrif Aur, yn ddiofyn mae'n eich rhoi yn y cyfeiriadur sy'n cael ei ddefnyddio i gadw holl ffeiliau eich lle personol ar y We. Defnyddiwch FTP i anfon tudalennau a ffeiliau eich gwefan i'r cyfeiriadur hwn.
Gweinyddwyr Safle
Pan fydd y cleient FTP yn cysylltu â'ch pau, yn ddiofyn mae'n eich rhoi yng nghyfeiriadur gwraidd gwefan eich pau.
O fewn y cyfeiriadur gwraidd fe welwch amryw gyfeiriaduron eraill:
\anon_ftp (os yw ar gael)
\bin (fel arfer ni fydd angen i chi roi enw'r cyfeiriadur hwn)
\cgi-bin (eich cyfeiriadur cgi-bin lle dylai eich holl ffeiliau CGI a Perl fod - os yw lefel eich cyfrif yn caniatáu hyn)
\conf (yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffeiliau ffurfweddu - peidiwch â newid unrhyw ffeiliau yn y cyfeiriadur hwn heblaw bod Cymru 1 yn dweud wrthych yn benodol i wneud hynny)
\error_docs (y ffeiliau mae Porwr y we yn eu dangos os daw ar draws gwall - gallwch addasu'r rhain os yw lefel eich cyfrif yn caniatáu hynny)
\httpdocs (prif gyfeiriadur gwe eich pau. Rhowch holl ffeiliau HTML eich prif wefan yma)
\logs (ffeiliau log - fel arfer ni fydd angen i chi deipio'r cyfeiriadur hwn)
\pd (fel arfer ni fydd angen i chi deipio'r cyfeiriadur hwn)
\web_users (y cyfeiriadur sy'n cynnwys ffeiliau unrhyw Ddefnyddwyr Gwe y byddwch wedi eu ffurfweddu)
Felly, er mwyn llwytho eich prif Wefan i fyny i'r gweinydd, bydd angen i chi newid i'r cyfeiriadur \httpdocs cyn anfon unrhyw ffeiliau.
SYLWCH:
Mae'r union ffordd y byddwch yn newid neu'n symud drwy gyfeiriaduron ar y gweinydd yn dibynnu ar eich cleient FTP. Mae'r rhan fwyaf yn darparu rhyngwyneb defnyddiwr graffigol tebyg i un Windows, felly ni ddylai fod yn anodd i chi symud i fyny ac i lawr rhwng cyfeiriaduron.
|