Hafan  Amdanom Ni  Cynhyrchion  Ychwanegol  Statws  Cymorth
   Hafan > Cynhyrchion > Nid Arian?   
       
Cynhyrchion
Cyflwyniad
Cymru 1 Cyswllt
Cymru 1 Arian
Cymru 1 Aur
Cofrestru Pau
Dylunio gwefannau
Telerau ac Amodau
Pam Aur ac nid Arian?

Er bod ein gwasanaeth Arian yn wych i ddefnyddwyr cartref a defnyddwyr busnes bach ar gyllidebau tynn, os ydych chi'n wirioneddol eisiau manteisio ar rym llawn y Rhyngrwyd rydym yn argymell ein Aur Gwasanaeth yn lle hynny, sy'n costio dim ond £5 + TAW yn fwy bob mis.



Mae llawer o resymau dros hyn, gan gynnwys:

1) Gyda'n gwasanaeth Aur cewch 25 o flychau e-bost POP3 unigol yn hytrach na dim ond pump, 50Mb o le ar y We gradd broffesiynol yn hytrach na dim ond 35Mb, a llawer gwell dibynadwyaeth a pherfformiad.

2) Gyda chyfrif Aur gallwch ddewis manteisio ar dechnolegau pwysig fel PHP a chronfeydd data MySQL. Gallwch hyd yn oed defnyddio cyfrif Aur i greu "mini VISP" ar gyfer clwb neu gymdeithas gyda'n dewisiadau VISP100 a VISP200.

Ni allwn or-bwysleisio pwysigrwydd cronfeydd data MySQL. Ar y cyd ag un o'r cannoedd o sgriptiau PHP neu Perl di-dâl sydd ar gael i lwytho i lawr o wefannau fel www.hotscripts.com, mae'r technolegau hyn yn caniatáu i chi ychwanegu yn rhwydd ac yn gyflym iawn bethau fel certi siopa e-fasnach soffistigedig, fforymau trafod, cylchdrowyr hysbysebion awtomatig, a llawer mwy at eich gwefan, a'r cyfan gyda phrofiad cymharol fychan o raglennu. Yn wir, yn aml y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw newid ychydig o linellau mewn ffeil ffurfweddu er mwyn gwneud i sgript weithio’n iawn gyda’ch gwefan.

Gallwch hefyd greu eich sgriptiau eich hun o'r newydd os na allwch ddod o hyd i un sy'n gwneud beth sydd arnoch ei angen, er ei bod yn amlwg y bydd angen i ddysgu sut i raglennu'n gynhwysfawr yn eich dewis o iaith sgriptio er mwyn gwneud hynny, heb sôn am ddod i wybod am system cronfa ddata SQL.

3) Er mwyn cadw costau i lawr, nid yw lle ar y we y gwasanaeth Arian yn cael ei gadw wrth gefn. Felly os bydd rhywbeth yn mynd yn drychinebus o'i le gyda'r gweinyddion sy'n lletya ein gwefannau ein cwsmeriaid gwasanaeth Arian, bydd cynnwys eich gwefan ac unrhyw e-bost heb ei dderbyn yn cael ei golli, fel y bydd unrhyw addasiadau a wnaethoch i'ch pau trwy eich panel rheoli ar sail y We - gan gynnwys gosodiadau e-bost. I'r gwrthwyneb, mae copïau lluosog wrth gefn o ddata defnyddwyr cyfrif Aur.

.



Mae llawer o resymau eraill dros ddewis cyfrif Aur yn lle un Arian.
Cliciwch yma i ddysgu mwy am wasanaeth Aur Cymru 1



Gan y byddai'n amlwg fod elw ariannol i ni os bydd cwsmeriaid yn dewis ein gwasanaeth Aur yn hytrach na'n gwasanaeth Arian rhatach, gallwch feddwl ein bod yn gor bwysleisio anfanteision ein gwasanaeth Connect o ran defnydd busnes neu gartref datblygedig. Ni chredwn ein bod yn gwneud hyn o gwbl, a gwahoddwn chi i ymgynghori â defnyddiwr Rhyngrwyd profiadol i gael ail farn. Ein cred yw na fyddant yn anghytuno â ni.




Y wefan hon (c) 2001 Cymru 1 Cyfyngedig. Cliciwch yma am wybodaeth hawlfraint, ymwrthodiad, a termau defnyddio safle We.